Part of the debate – Senedd Cymru am 6:39 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y teitl ydy: deddfwriaeth ansawdd awyr sy'n addas ar gyfer heriau modern. Nawr, dwi ddim yn siŵr a ydw i wedi crybwyll erioed o'r blaen yn fan hyn fy mod i wedi bod yn feddyg yn Abertawe ers rhyw 35 mlynedd bellach, gyda heriau iechyd yr ysgyfaint a'r galon gyda'r mwyaf cyffredin o'r cyflyrau dwi'n gorfod delio efo nhw'n wastadol. Mae cyfraddau'r anadlwst neu'r fogfa—dyna i chi ddau air Cymraeg am asthma—mae cyfraddau'r anadlwst ar gynnydd yn ein plant ers degawdau, ac nid oes esboniad dilys arall yn y bôn, dim ond graddfeydd y llygredd yn yr awyr y mae rhai plant yn gorfod ei anadlu yn gyson. Ac mae'r gronynnau bychan, y PM10 a'r PM2.5, sy'n dod o danwydd diesel a phetrol, yn ogystal â theiars y ceir yn gwasgaru gronynnau bychan o rwber a phlastig i'r awyr, a'r nitrogen deuocsid—y nwy gwenwynig yna sy'n deillio o losgi diesel—oll yn cael eu hanadlu i mewn i'r ysgyfaint. Ac mae rhai o'r gronynnau yma mor fach—nano-gronynnau, fel dŷn ni'n eu galw nhw—fel eu bod nhw nid yn unig yn cyrraedd y pibellau mwyaf main yn ein hysgyfaint, ond yn gallu mynd drwodd yn uniongyrchol i gylchredeg yn y gwaed hefyd, a chyrraedd ein calonnau yn uniongyrchol ac achosi adwaith yn y cyhyr sydd yn wal ein calonnau ni. Felly, dyna pam mae hwn yn argyfwng—argyfwng sydd wedi dod yn fwy pwysig yn ddiweddar.