Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 13 Chwefror 2019.
Mae llygredd aer, felly, yn argyfwng iechyd y cyhoedd. Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd sy’n niweidiol i’w hiechyd. Cofnododd tair dinas yng Nghymru—Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe—lefelau anniogel o lygredd aer y llynedd. Mae Port Talbot hefyd, yn rhanbarth Bethan a minnau, yn dioddef ansawdd aer gwael ac wedi dioddef felly ers blynyddoedd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dynodi llygredd aer yn argyfwng iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu.
Dengys ffigurau diweddar fod mwy na 2,000 o bobl yn marw cyn pryd yng Nghymru bob blwyddyn o ganlyniad i ansawdd aer gwael. Mae'n sgandal genedlaethol. Nawr, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, diben y ddadl fer heddiw yw dadlau’r achos dros Ddeddf aer glân newydd a'r angen i greu fframwaith cyfreithiol cadarn sy'n nodi dulliau uchelgeisiol i wella ansawdd aer yng Nghymru.
Nawr, 60 mlynedd yn ôl yn unig, byddai trefi a dinasoedd ledled y DU yn aml yn cael eu mygu gan fwg o'r tanau glo a oedd yn llosgi mewn cartrefi a ffatrïoedd. Daeth Llundain i stop yn ystod Mwrllwch Mawr 1952 a bu farw miloedd o bobl dros yr wythnosau a'r blynyddoedd dilynol. Bob blwyddyn, mae llygredd aer yn effeithio ar fywydau pob dydd miloedd o bobl nad oes dewis ganddynt ond anadlu aer budr. Ceir lefelau anghyfreithlon a niweidiol o lygredd aer nid yn unig yn Llundain a dinasoedd Cymru, ond hefyd mewn trefi fel Llandeilo a Chas-gwent. Nid yw’r ffaith nad oes gennym fwrllwch a mwg du fel y fagddu bellach yn golygu bod yr aer yn lân.
Mae llygredd aer yn effeithio ar bawb, o’r groth hyd at henaint. Mae'n achosi strociau, trawiadau ar y galon a phyliau o asthma, gan gynyddu'r risg o fynd i'r ysbyty a marw, ac mae'n achosi canser. Mae'n gysylltiedig â genedigaethau cynamserol ac yn llesteirio twf yr ysgyfaint mewn plant.
Yn y 1950au, pan roedd llawer o fwrllwch, y broblem oedd fod y gronynnau’n fawr ac yn mynd yn sownd yn y llwybrau anadlu uchaf. Nawr, mae’r nanoronynnau hyn yn mynd yn syth i berfedd yr ysgyfaint, a hyd yn oed i lif y gwaed, fel y dywedais yn gynharach—yn uniongyrchol i mewn i lif ein gwaed. Mae pobl sy’n dioddef o fethiant y galon yn grŵp sy'n agored i niwed, a phan fydd ansawdd yr aer yn lleihau, caiff mwy ohonynt eu derbyn i'r ysbyty. Mae gennym gyswllt clir rhwng lefelau llygredd aer a thrawiadau ar y galon, ac mae astudiaethau wedi dangos bod deunydd gronynnol yn yr aer yn un o’r prif resymau am hyn. Gwyddom fod y perygl i iechyd yn sgil anadlu llygryddion yn parhau ymhell ar ôl dod i gysylltiad â hwy. Ceir hefyd tystiolaeth gynyddol fod hyn yn effeithio ar ysgyfaint plant sydd heb eu geni—mae hyd yn oed plant heb eu geni yn cael eu heffeithio gan lygredd sy’n cael ei anadlu gan eu mamau beichiog. Gallai hynny effeithio ar eich iechyd drwy gydol eich bywyd.
Felly, pam y Ddeddf aer glân? Yr wythnos diwethaf, dangosodd adroddiad UNICEF UK, 'Healthy Air for Every Child’, fod gan 70 y cant o drefi a dinasoedd y DU lefelau llygredd gronynnol sy'n uwch na therfynau diogel Sefydliad Iechyd y Byd. Ac ar draws 86 y cant o'r Deyrnas Unedig, mae lefelau crynodiad nitrogen deuocsid yn anghyfreithlon o uchel heddiw. Mae terfynau'r UE, sy’n berthnasol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yr un fath â’r terfynau uchaf a argymhellir yng nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer nitrogen deuocsid, ond maent yn llai llym na throthwy Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y llygryddion eraill sy’n niweidiol i iechyd, megis y deunydd gronynnol mân, y PM2.5.
Nawr, mae UNICEF wedi dweud yn ddigamsyniol ei bod yn hanfodol fod Gweinidogion yn cynnwys targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith er mwyn bodloni safonau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd—dyna yw sail y ddadl hon. Gwyddom fod y fframwaith cyfreithiol presennol yn glytwaith o wahanol ddeddfau a chymwyseddau datganoledig. Mae llawer o'r ysgogiadau posibl i wella ansawdd aer eisoes yn bodoli, ond ni chânt eu defnyddio’n effeithiol gan fod cyfrifoldebau’n cael eu rhannu rhwng ffynonellau llygredd ac iechyd yr amgylchedd, ar lefel llywodraeth leol ac ar lefel genedlaethol. Byddai Deddf aer glân newydd i Gymru yn cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth bresennol ac yn gwneud rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gliriach. Mae hefyd yn rhoi cyfle inni gyflwyno deddfau mwy uchelgeisiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac sy'n adlewyrchu'r heriau penodol sy'n wynebu Cymru.