Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn ymwybodol iawn o'r angen dybryd i fynd i'r afael â llygredd aer, ar gyfer cenedlaethau'r presennol ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau hanfodol mewn ansawdd aer i gefnogi cymunedau iachach a gwell amgylcheddau. Felly, rwy'n croesawu'r ddadl hon ar ddeddfwriaeth ansawdd aer heddiw, ac rwy'n croesawu ac yn ymwybodol o ddiddordeb ac angerdd parhaus yr Aelod ynglŷn â'r maes hwn a chredaf fod llawer o gonsensws yn y Siambr hon yn ei gylch bellach. Gwyddom y bydd angen ymdrech gyfunol i gyrraedd lle mae angen inni fod. Yn ogystal â'r camau y gall y Llywodraeth eu cymryd, golyga hefyd fod yn rhaid i bob un ohonom roi ein camau ein hunain ar waith a newid ein hymddygiad ein hunain. Croesawaf y cyfle i allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gwaith y Llywodraeth hon a'r hyn a wnawn fel blaenoriaeth drawslywodraethol yn rhinwedd yr hyn wyf fi heddiw—dirprwy, yn anffodus, ar ran Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Mae rheoli ansawdd aer yn gyffredinol wedi'i fframio o fewn fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol cynhwysfawr. Mae gwelliannau cenedlaethol hyd yma wedi eu llywio i raddau helaeth gan gyfarwyddebau Ewropeaidd. Er enghraifft, fel y dywed yr Aelod, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddasom ein hatodiad Cymreig i gynllun y DU ar gyfer mynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru i fodloni gofynion y gyfarwyddeb Ewropeaidd ar ansawdd aer amgylchynol ac aer glanach i Ewrop. Mae'r cynllun yn nodi camau gweithredu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i leihau crynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd lle mae'r lefelau uwchlaw'r terfynau cyfreithiol yng Nghymru, sef ein her bwysicaf a mwyaf uniongyrchol o ran ansawdd aer. Gwnaed cryn dipyn o waith ar ddatblygu'r cynllun hwn, a bydd y gwaith hwnnw'n parhau drwy gydol y broses o'i roi ar waith. Yn ogystal, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar ostyngiadau allyriadau yn y dyfodol sy'n ofynnol o dan y gyfarwyddeb terfynau uchaf allyriadau cenedlaethol ar gyfer pum llygrydd aer pwysig. Y rhain yw nitrogen ocsid, cyfansoddion organig anweddol di-fethan, sylffwr deuocsid, amonia a deunydd gronynnol mân. Gwyddom fod y llygryddion hyn yn cyfrannu at ansawdd aer gwael, gan arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar iechyd dynol a'n hamgylchedd.
Ar hyn o bryd, mae'r DU yn bodloni holl ymrwymiadau lleihau allyriadau'r UE ac yn rhyngwladol. Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i helpu i gyflawni ymrwymiadau lleihau allyriadau'r DU yn y dyfodol o fewn rhaglen rheoli llygredd aer cenedlaethol y DU, a byddwn yn ymgynghori ar y cynlluniau hynny cyn bo hir ac yn eu cyhoeddi cyn mis Ebrill eleni. Mae angen camau gweithredu trawslywodraethol, ac maent yn cael eu cymryd ar draws holl adrannau a sectorau Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni gwelliannau i ansawdd aer. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, sefydlwyd y rhaglen aer glân gennym y llynedd, a nod y rhaglen hon yw diogelu iechyd y cyhoedd a'n hamgylchedd naturiol. Mae'r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar gydymffurfio â rhwymedigaethau deddfwriaethol Ewropeaidd a domestig. Fel rhan o'r rhaglen, rydym wedi sefydlu prosiectau sy'n dwyn adrannau a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i gyflawni gwelliannau i ansawdd aer ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys trafnidiaeth, gwell tystiolaeth, hylosgi domestig, diwydiant, cynllunio a chyfathrebu.
Mae'r cyfarwyddebau Ewropeaidd yn mynd i'r afael â llygredd aer mewn sawl ffordd, gan gynnwys terfynau ar gyfer ansawdd aer awyr agored, cyfyngu ar allyriadau yn y ffynhonnell, a lleihau allyriadau trawsffiniol drwy gamau gweithredu rhyngwladol. Bydd ein targedau gostwng allyriadau, i'w cyflawni o 2030 ymlaen, yn cefnogi'r broses o leihau effaith llygredd aer ar iechyd i hanner yr hyn ydoedd yn 2005.
Yn y dyfodol, mae'n rhaid inni gynnal ein hymrwymiad i gymryd camau i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol, ond rydym yn ymwybodol nad yw hyn yn ymwneud â gweithredu er mwyn ticio blychau yn unig—mae'n weithredu am ein bod yn gwybod bod angen inni ei wneud er budd ein dinasyddion ac er mwyn eu hiechyd. Gellir cyflawni hyn mewn sawl ffordd, gan gynnwys drwy integreiddio polisïau a chydweithredu'n well. Trothwyon ar gyfer cyfyngu ar risg unigol, nid lefelau diogel, yw llawer o dargedau, gan gynnwys rhai o ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd. Felly, rydym yn ystyried yr holl opsiynau posibl i leihau cyswllt y boblogaeth â llygredd aer yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan gynnwys effaith bosibl safonau Sefydliad Iechyd y Byd.