Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 13 Chwefror 2019.
Mae angen i unrhyw bolisïau neu dargedau yn y dyfodol gael eu hategu gan dystiolaeth i sicrhau eu bod yn darparu’r newid mwyaf effeithiol. Mae hyn yn cynnwys asesu'r pethau ymarfeol sy'n gysylltiedig, megis yr effeithiau cymdeithasol, economaidd a thechnegol. Mae angen inni gasglu tystiolaeth i sicrhau ein bod yn targedu'r meysydd cywir yn y ffordd gywir. Bu bron i’r Aelod achub y blaen ar rai o fy llinellau drwy gyfeirio at faniffesto'r Prif Weinidog. Yn wir, roedd y maniffesto’n cynnwys ymrwymiad i wella ansawdd aer drwy ddatblygu Deddf aer glân i Gymru. Mae hyn yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, ac mae'n bosibl y gall y gwaith a wnawn eisoes ar y rhaglen aer glân nodi bylchau a chyfleoedd lle bydd angen deddfwriaeth newydd i leihau llygredd aer. Mae hynny’n rhywbeth sydd ar y bwrdd a byddwn yn mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod, fel y dywedasom, fod angen inni weithredu yn awr, ac mae llu o bwerau deddfwriaethol ac offer ar gael inni eisoes i'n galluogi i wneud hynny. Mae'r rhain yn cynnwys mesurau cynllunio, seilwaith a chyfathrebu, ymhlith pethau eraill.
Mae asesu ansawdd aer a risgiau amgylcheddol cysylltiedig yn digwydd ar nifer o lefelau. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli llygredd aer yn eu hardaloedd fel rhan o'r drefn reoli ansawdd aer lleol, a sefydlwyd o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol helaeth yn nodi'r hyn y disgwylir i awdurdodau lleol ei wneud o ran cyflawni eu dyletswyddau rheoli ansawdd aer lleol. Mae ein canllawiau yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar risg o asesu ansawdd aer lleol. Mae hwn yn sicrhau bod y gwaith monitro yn canolbwyntio ar y lleoliadau lle mae aelodau o'r cyhoedd yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â lefelau gormodol o lygredd aer, megis ysgolion, ysbytai a meithrinfeydd, ymhlith mannau eraill, mannau a elwir yn lleoliadau sensitif ar gyfer gosod derbynyddion.
Sefydlwyd prosesau monitro a modelu cenedlaethol a lleol at wahanol ddibenion. Er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o ansawdd aer ledled Cymru, rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol ac yn y DU i ddeall sut y gellir integreiddio data lleol yn well gyda data cenedlaethol. Rydym hefyd yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddatblygu mwy o dystiolaeth leol, lle mae ei hangen, i ategu'r dystiolaeth bresennol ar lygredd aer.
Y llynedd, cwblhawyd prosiect peilot i brofi dull newydd a arweinir gan iechyd y cyhoedd o asesu risg llygredd aer yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf. Mae papur wedi'i ddrafftio i grynhoi a hyrwyddo'r gwaith ymhlith rhanddeiliaid, a bydd hyn yn ein cynorthwyo i ddatblygu dull a arweinir gan iechyd y cyhoedd o wella’r gwaith o asesu risg rheoli ansawdd aer lleol yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ag ystod eang o gamau gweithredu i fynd i'r afael ag allyriadau trafnidiaeth ledled Cymru gyfan. Bydd llawer ohonnt yn cefnogi gwelliannau ansawdd aer a datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae hyn yn cynnwys annog newid moddol. Mae’n rhaid i bob un ohonom fod yn llai dibynnol ar geir preifat a newid i fodelau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus. Tybed faint o bobl yn y Siambr hon ac yn yr adeilad hwn a ddaeth yma heddiw mewn car. Ond fel y dywedodd yr Aelod, dyma pam fod angen inni weithio ar draws y Llywodraeth gyda'r holl ddulliau sydd gennym at ein defnydd, oherwydd, er bod hwn yn fater iechyd ac amgylcheddol, mae llawer o'r pethau a fydd yn cyflawni'r newid hwnnw'n dibynnu ar drafnidiaeth, a dyna pam fod pwyslais ar weithio ar draws y Llywodraeth mor bwysig i sicrhau bod y dewisiadau amgen hynny ar gael i bobl.
Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi dros £60 miliwn dros dair blynedd o 2018 i greu llwybrau teithio llesol ledled Cymru i gefnogi opsiynau mwy diogel, iachach a mwy deniadol i ddinasyddion. Mae gennym nod uchelgeisiol hefyd i leihau ôl troed carbon bysiau a thacsis yng Nghymru i sero erbyn 2028. Mae'r camau hyn yn cefnogi gwelliannau i ansawdd aer yn ein trefi a'n dinasoedd, ac yn dangos arweiniad yn yr ymdrech i sicrhau trafnidiaeth garbon isel ac allyriadau isel.
Y gwanwyn hwn, byddwn yn cyhoeddi'r fframwaith parthau aer glân i Gymru. Gall unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru gyflwyno parth aer glân er mwyn mynd i'r afael â materion ansawdd aer lleol, ac mae gan barthau aer glân botensial i ddarparu gwelliannau go iawn i ansawdd aer drwy annog newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth o lygredd aer.
Ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddwyd 'Polisi Cynllunio Cymru' gennym, ac mae wedi ei ailysgrifennu'n gyfan gwbl yng ngoleuni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae ansawdd aer wedi'i ymgorffori drwy gydol 'Polisi Cynllunio Cymru’ argraffiad 10, yn ogystal ag adran benodol ar ansawdd aer a seinwedd. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau y caiff ansawdd aer ei ystyried yn gynnar yn y broses gynllunio, yn hytrach na’i bod yn ystyriaeth dechnegol yn unig, bron fel ychwanegiad, ac i fod yn elfen ganolog yn hytrach nag atodiad ar ddiwedd y broses. Bydd cymorth pellach ar ffurf canllawiau technegol ar sŵn ac ansawdd aer yn cael ei gyhoeddi o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Mae gwaith ar bolisi hylosgi domestig yn rhan annatod o'r rhaglen aer glân. Y mis hwn, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod cyntaf grŵp gorchwyl a gorffen sy'n cynnwys cynrychiolwyr o’r byd diwydiant, iechyd, DEFRA ac awdurdodau lleol i gefnogi a goruchwylio’r broses o roi polisi hylosgi domestig ar waith yn y dyfodol yng Nghymru. Fel y clywsoch heddiw, mae angen dull amlhaenog a chyfannol o weithredu, sy'n edrych ar danwyddau, cyfarpar, cynnal a chadw, deddfwriaeth a newidiadau mewn ymddygiad, ymhlith pethau eraill, i fynd i'r afael yn llawn â'r materion ansawdd aer, o ystyried maint y broblem. Bydd pob math o ymyrraeth yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith hwn, gan gynnwys gwaharddiad ar werthu, neu gyfyngu ar faint a werthir o rai mathau o danwydd solet, a gwahardd pobl rhag eu defnyddio lle tybir bod angen gwneud hynny.
Ym mis Mawrth, bydd cyfarfod cyntaf y grŵp trawslywodraethol ar gyfathrebu newid ymddygiad yn cael ei gynnal. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol i wella ansawdd aer ledled Cymru. Er ein bod yn datblygu polisïau i fynd i'r afael ag ansawdd aer ar lefel y Llywodraeth, mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o lygredd aer ar lefel unigolion a chymunedau hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn annog pawb i ofyn, 'Beth y gallaf ei wneud i leihau ein hallyriadau?' Bydd y grŵp cyfathrebu yn gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i ddatblygu addysg ar ansawdd aer a negeseuon cyfathrebu i roi gwybod i’r cyhoedd yng Nghymru ynglŷn â’r camau y gallwn eu cymryd i fynd i'r afael â llygredd aer gyda'n gilydd.
Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y materion cymhleth rydym yn eu hwynebu yn ardal Port Talbot, gyda'r cyfuniad o ffactorau yno. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau, yn fy rôl flaenorol, wedi cyfarfod â Tata Steel, cyngor Castell-nedd Port Talbot a Cyfoeth Naturiol Cymru ddiwedd y llynedd i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i wneud gwelliannau parhaus i ansawdd aer ym Mhort Talbot. Dros y 12 mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith i wella a deall y problemau yn yr ardal yn well, ac mae hyn yn cynnwys adolygiad a diweddariad o gynllun gweithredu ar ansawdd aer Port Talbot i sicrhau bod gennym drefniadau llywodraethu sy’n addas i’r diben yn yr ardal a bod y camau unioni angenrheidiol wedi eu targedu'n effeithiol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan ganlyniad adolygiad cymheiriaid gan Brifysgol Gorllewin Lloegr, sydd ar fin cael ei gwblhau.
Yn ychwanegol at hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i fynd i'r afael ag achosion lle’r aed uwchlaw’r terfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid, cyn gynted ag y bo modd, ar yr M4 rhwng cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot. Amlygir y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ymylon ffyrdd yng Nghymru yn ein cynllun. I ddod â hyn oll ynghyd, byddwn yn cyhoeddi'r cynllun aer glân yn ddiweddarach eleni. Bydd y cynllun hwn yn nodi llygryddion allweddol a'u heffeithiau ar iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol yng Nghymru. Bydd yn cynnwys mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol, yn nodi camau gweithredu trawslywodraethol a chamau gweithredu sydd eu hangen gan y sectorau i gyflawni gwelliannau ansawdd aer, ac yn sefydlu mesurau cyfathrebu, ymgysylltu ac addysgu i annog newid ymddygiad er mwyn cefnogi gostyngiad mewn llygredd aer.
Un o swyddogaethau allweddol y gwaith hwn fydd ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i ddatblygu'r cynllun er mwyn ein cynorthwyo i ddatblygu strategaeth sy'n hyrwyddo lles cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau'r dyfodol, gan ein bod yn gwybod bod gweithredu yn allweddol i'w dyfodol a bod ganddynt ran allweddol i'w chwarae yn gwireddu ein huchelgais i fynd i'r afael ag ansawdd aer yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu cyfoedion. Rydym wedi gweld nifer o ysgolion cynradd ledled Cymru sy'n cymryd rhan yn rhaglen Dreigiau Ifanc yn monitro a datblygu eu hymgyrchoedd newid ymddygiad eu hunain, a allai gynnwys bysiau cerdded, mynd i'r ysgol ar sgwteri a mesurau dim oedi ger tir yr ysgol. Edrychaf ymlaen at weld plentyn naw oed yn curo ar ffenestr rhywun i ddweud wrthynt am ddiffodd eu hinjan.
I gloi, hoffwn ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithredu yn awr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gweld y gwelliannau parhaus y gwyddom fod eu hangen arnom o ran iechyd a lles ansawdd aer.