Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 13 Chwefror 2019.
Gwyddom fod cryn gefnogaeth gyhoeddus i’w chael i Ddeddf aer glân newydd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod galwadau am Ddeddf aer glân yn y gorffennol, ond yn ystod y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, ymrwymodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ei faniffesto, a dyfynnaf:
I ddatblygu Deddf Aer Glân newydd i sicrhau y gall ein plant fynd i'r ysgol, bod yn egnïol a chwarae y tu allan yn ddiogel heb ofn problemau anadlu, megis asthma, oherwydd y lefelau llygredd yn rhai o'n trefi a'n dinasoedd.
Diwedd y dyfyniad. Mae arweinwyr a meiri dinasoedd ledled y DU wedi dangos eu cefnogaeth i ddeddfwriaeth yn y maes hwn, gan gynnwys arweinydd cyngor Caerdydd. Mae Awyr Iach Cymru hefyd wedi gwneud gwaith ardderchog yn sicrhau bod y mater yn cyrraedd brig yr agenda wleidyddol. A pheidiwn ag anghofio, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU a Llywodraeth Lafur Cymru wedi wynebu achosion llys am beidio â gwneud digon i fynd i'r afael â llygredd aer, ac wedi eu cael yn euog, ac ni allwn adael i hyn barhau.
Felly, sut beth fyddai Deddf aer glân? Yn ogystal ag ymgorffori canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yng nghyfraith Cymru, gallai Deddf aer glân orchymyn i Lywodraeth Cymru gynhyrchu strategaeth ansawdd aer statudol bob pum mlynedd. Gallai osod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i fonitro ac asesu llygredd aer yn briodol a gweithredu yn ei erbyn. Gallai gyflwyno 'hawl i anadlu', lle byddai gan awdurdodau lleol rwymedigaeth i hysbysu grwpiau sy'n agored i niwed pan aiff llygredd aer yn uwch na lefelau penodol. Dylid cyflawni hyn drwy strategaeth ansawdd aer drawslywodraethol gynhwysfawr sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol; bwrdd cynghori cenedlaethol ar ansawdd aer, dan gadeiryddiaeth Gweinidog yr Amgylchedd; cyflwyno parthau aer glân yn ein dinasoedd; gofyniad i awdurdodau lleol baratoi cynllun aer glân ar y cyd â byrddau iechyd lleol a byrddau gwasanaethau cyhoeddus, yn seiliedig ar ddata o'r rhwydwaith monitro ac asesu annibynnol, gan nodi a gweithredu mesurau rheoli digonol; gofyniad i bob awdurdod lleol ddatblygu strategaeth gerdded a beicio gyda thargedau i ostwng canran y teithiau mewn ceir preifat.
Nawr, mae llygredd aer yn effeithio'n arbennig ar Orllewin De Cymru, yn ogystal â dinas Abertawe, gan fod daearyddiaeth yr ardal mewn dysgl, gyda lefelau osôn, felly mae gan Abertawe lefelau llygredd penodol. Mae'n dioddef problemau ansawdd aer yn rheolaidd. Mae gennym ardal ddiwydiannol Port Talbot hefyd wrth gwrs gyda'i heriau unigryw.
Nawr, flynyddoedd maith yn ôl, roeddem yn barod fel cymdeithas i oddef dŵr nad oedd yn lân. Rydym yn dal i oddef dŵr nad yw'n lân mewn sawl rhan o'r byd. Nawr, ni fyddech yn awgrymu unrhyw sefyllfa lle dylem oddef dŵr sy’n llawn amhureddau heddiw, ond yn Abertawe a Phort Talbot, rydym yn goddef aer sy’n llawn amhureddau. Mae angen newid agwedd mawr ac arweinyddiaeth genedlaethol gan y Llywodraeth. Gwyddom fod cysylltiad go iawn rhwng hyn a thlodi, gan fod y 10 y cant o’r wardiau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynnwys pum gwaith yn fwy o allyriadau carsinogenaidd na'r 10 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gan y gall y bobl gyfoethocaf fforddio byw mewn ardaloedd sy’n cynnwys coed a pharciau, tra bo’r bobl lai cyfoethog yn byw mewn tai sy'n wynebu'r stryd yn uniongyrchol a lle nad oes unrhyw rwystr rhyngoch chi a'r llygredd a allyrrir gan geir.
Felly, beth am atebion i gefnogi Deddf aer glân? Rwy'n ceisio helpu’r Llywodraeth gyda hyn. Hoffai Plaid Cymru weld gwerthiant ceir diesel a phetrol yn dirwyn i ben yn raddol erbyn 2030. Dilyn Copenhagen a dinasoedd a gwledydd yng ngorllewin Ewrop sy’n rhoi gwaharddiadau ar waith—gwaharddiadau ar werthiant a gwahardd ceir tanwydd ffosil yn unig rhag dod i mewn i ddinasoedd. Trafnidiaeth gyhoeddus: mae angen inni sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gwbl integredig yng Nghymru. Mewn ardaloedd fel Port Talbot ac Abertawe, mae llawer o waith i'w wneud yn y cyswllt hwn. Rydym yn clywed am gymorthdaliadau bysiau'n cael eu torri'n lleol, prisiau'n codi, colli gwasanaethau—a oes unrhyw syndod fod pobl yn defnyddio eu ceir ac yn ychwanegu at yr ansawdd aer gwael? Mae angen inni osod targedau ar gyfer cerbydau allyriadau is—tacsis, fel y gwnânt yn Llundain, bysiau, lorïau gwastraff cynghorau a cherbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill—a gallai Deddf aer glân helpu i gyflawni hynny. Gosod targedau ar gyfer cerbydau allyriadau is.
Gallem osod terfyn cyflymder diofyn o 20 mya fel polisi cenedlaethol, ledled Cymru, a fyddai’n fan cychwyn wedyn i awdurdodau lleol. Gallent eithrio rhai ffyrdd o'r polisi cyffredinol hwnnw am resymau dilys a phenodol, ond 20 mya fyddai'r man cychwyn. Byddai hynny'n helpu i greu amgylcheddau dinesig sy'n haws i bobl gerdded a beicio ynddynt a fyddai'n gwneud i bobl deimlo'n ddiogel i feicio o'u cartrefi a chysylltu'r gyda'r rhwydwaith beicio newydd o dan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Mae amrywiaeth eang o gamau y gellir eu cymryd, wedi'u tanategu gan y gyfraith.
Felly, i gloi, hoffwn ddiolch i Awyr Iach Cymru, yn gyntaf oll. Grŵp cydweithredol o sefydliadau yw hwnnw. Rydym wedi cyfarfod â hwy yn unigol ac fel grŵp trawsbleidiol bellach ar y Ddeddf aer glân, ac aelodau'r sefydliad hwnnw, Awyr Iach Cymru, yw Sefydliad Prydeinig y Galon, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Living Streets Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon a Sustrans Cymru. Diolch i bob un ohonynt am eu gwaith gwych ac am lywio’r ddadl hon, ond yn bennaf am y gwaith gwych a wnânt yn y maes hwn. Nawr, mae pob un ohonynt yn chwarae eu rhan—yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ffigurau morbidrwydd a marwolaethau yn galw am weithredu ar frys: 2,000 o farwolaethau dianghenraid yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hwnnw'n ffigur dramatig, ac mae angen ei wrthdroi. Mae hwn yn argyfwng iechyd y cyhoedd mawr, ac mae agwedd ddi-hid tuag at lygredd aer wedi bodoli'n rhy hir o lawer yn y wlad hon, ac mae'n rhaid ei bwrw i ebargofiant. Diolch yn fawr.