Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn. Dwi wedi bod ar wefan HMRC heddiw, yn sôn am beth fyddai'n digwydd o ran tollau os ydy'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae o'n rhyfeddol o gymhleth. Mae o'n dechrau drwy egluro mai simplified customs procedures ydy'r rhain. Does yna ddim byd yn syml am hyn o gwbl, ac, wrth gwrs, mae yna ffordd o'i gadw fe'n syml, sef i aros o fewn yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Ond pa gamau gweithredu bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn achos o adael heb gytundeb i gydweithio efo HMRC i sicrhau bod porthladd Caergybi ddim yn dod i stop?