Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Chwefror 2019.
Wel, mae'r Aelod yn pwysleisio elfen bwysig iawn, hynny yw, pa bynnag faint bosib gall ei wneud mewn sefyllfa heb gytundeb, dyw'r problemau fydd yn digwydd yn y cyd-destun hwnnw ddim yn gallu cael—. Dyw'r camau ddim ar gael i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd. Mae trafodaethau yn digwydd, fel rwy'n ei ddweud, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gyda'r HMRC ynglŷn â hyn, sy'n seiliedig ar fodelu gwahanol senarios a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd, ar y cyfan, i ddelio gorau y gallwn ni â'r sefyllfa honno. Dylwn i ddweud bod y cydweithrediad gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y maes hwn wedi gwella dros y cyfnod diweddaraf.