Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 13 Chwefror 2019.
Y gwir amdani, wrth gwrs, yw bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn San Steffan eisiau gadael yr UE. Datgelwyd lluniau yn yr ychydig ddyddiau diwethaf o Jeremy Corbyn yn ôl yn 2010, yn galw ar yr UE, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael ei drechu', gan gyhuddo'r Undeb Ewropeaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol o fod, a dyfynnaf, yn hollol unedig ar ddatchwyddiant, darostwng yr economi a chreu diweithdra.
Ac wrth gwrs, mewn llyfr sy'n cael ei gyfresoli mewn papur dydd Sul ar hyn o bryd, datgelwyd bod canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, a Seumas Milne, cynghorydd agosaf Jeremy Corbyn, ill dau wedi pleidleisio i adael yr UE. O gofio hyn, yn hytrach na chwarae gwleidyddiaeth ynghylch ail refferendwm a pharatoi am un pan nad oes unrhyw arwydd y daw un, a dim gobaith y bydd mainc flaen Llafur yn San Steffan yn galw am un, a ydych yn derbyn mai'r hyn y dylech ei wneud yw bwrw ymlaen i gefnogi'r Prif Weinidog a chefnogi'r cytundeb a negododd a'r newidiadau sy'n mynd i fod yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau cytundeb, gyda newidiadau priodol i'r ddarpariaeth wrth gefn?