Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:33, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Er fy mod yn eiddigeddus o allu'r Aelod i gael ei glywed ar draws y Siambr, nid wyf am gymryd unrhyw wersi oddi wrtho am chwarae gwleidyddiaeth ar y mater hwn. Mae ein safbwynt yn hollol glir, a'r ffordd orau o ddatrys hyn ac osgoi sefyllfa 'dim bargen' yw i'r Prif Weinidog gael gwared ar ei llinellau coch a cheisio sicrhau consensws ar draws y Senedd ar y mathau o egwyddorion y gellid cael cynghrair eang yn eu cylch, nid y gynghrair gul y mae hi'n ceisio ei sefydlu ar hyn o bryd.