Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:40, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y Cwnsler Cyffredinol wedi gweld bod Olly Robbins, prif negodwr y Llywodraeth gyda'r UE, wedi gadael y gath o'r cwd ddoe ym Mrwsel ac wedi datgelu gwir fwriadau Theresa May. Mae hi bob amser wedi dweud nad yw am ymestyn erthygl 50 na chael unrhyw oedi a fyddai'n golygu na fyddai Prydain yn gadael yr UE ar 29 Mawrth. Ond dywedodd Olly Robbins mai ei dasg, neu dasg y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin dros yr ychydig wythnosau nesaf, yw cael ASau i gredu y bydd estyniad yn bosibl ar gyfer yr wythnos yn dechrau ar ddiwedd mis Mawrth, ond os na fyddant yn pleidleisio o blaid y cytundeb, y bydd yr estyniad yn un hir. Felly, ar y naill law, mae'r Prif Weinidog yn dweud na fydd estyniad, ond mae'r dyn sy'n gwneud y negodi o ddydd i ddydd yn dweud mai eu tacteg yw ymestyn aelodaeth Prydain o'r UE y tu hwnt i 29 Mawrth os nad yw'r ASau yn cytuno i'r cytundeb.