Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 13 Chwefror 2019.
Ie, gwelais innau hynny hefyd. Ein safbwynt ni, fel Llywodraeth, yw y dylai'r Prif Weinidog wneud cais am estyniad i erthygl 50 ar y pwynt hwn. Po ddiweddaraf y gadewir hynny, y mwyaf peryglus fydd hi a'r mwyaf o heriau a allai fod i sicrhau hynny. Mae'n ymddangos i ni fod bron unrhyw senario o hyn ymlaen yn galw am ymestyn erthygl 50—ymestyn y dyddiad ymadael. Hyd yn oed pe bai cytundeb yn bosibl ar y pwynt hwn, mae'r ymarfer logistaidd, ymarferol o gael deddfwriaeth drwy'r Senedd er mwyn gwneud iddo ddigwydd eisoes yn mynd â ni y tu hwnt i'r dyddiad ymadael presennol mewn unrhyw senario realistig fwy neu lai.