Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:37, 13 Chwefror 2019

Allaf fi jest gofyn i'r Gweinidog a ydy e'n ymwybodol, jest i gadarnhau, fod heddlu yng Nghymru yn mynd i gael eu rhoi ar standby pe baem ni'n gadael heb gytundeb, fel sydd wedi cael ei adrodd, er enghraifft, yn yr Alban ac yn Lloegr? Ym mis Chwefror y llynedd, mi gawsom ni gadarnhad bod y Llywodraeth yn edrych ar y syniad o greu parthau rhydd, neu borthladdoedd rhydd, pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. All y Gweinidog ein diweddaru ni ynglŷn â'r gwaith hynny? Allwch chi ddweud pa borthladdoedd, neu feysydd awyr, neu ardaloedd eraill, sydd o dan ystyriaeth gennych ar hyn o bryd? Ac a ydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu cefnogi unrhyw gais ar gyfer statws parth rhydd?

Ac yn olaf, yn dilyn adroddiadau y prynhawn yma bod Ford wedi dweud wrth Brif Weinidog Prydain eu bod nhw'n bwriadu symud y gwaith cynhyrchu o'r Deyrnas Gyfunol pe bai yna Brexit heb gytundeb, a ydych chi'n gallu dweud a fydd yna unrhyw drafodaeth debyg gyda Gweinidogion Cymru, gan Ford? Ac a allwch chi ddweud hefyd a ydy Llywodraeth Cymru wedi siarad â phob un o'r 52 o brif gwmnïau—yr anchor companies—yn ystod y tri mis diwethaf i ofyn iddyn nhw hefyd ynglŷn ag effaith bosib Brexit ar eu busnesau?