Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:39, 13 Chwefror 2019

O ran y porthladdoedd rhydd, wrth gwrs, o'n safbwynt ni fel Llywodraeth, rydym ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae gyda ni berthynas agos â'r farchnad sengl, a bod o fewn undeb tollau. Ac mae'n anodd gweld sut y gallai porthladdoedd rhydd, parthau rhydd, fodoli o fewn y fframwaith hwnnw. Felly, mae sialens strategol gyda ni yn y cyd-destun hwnnw.

O ran y sgyrsiau rhwng y Llywodraeth a'r cwmnïau, neu'r cyflogwyr, mawr, mae'r sgyrsiau yna'n digwydd yn barhaol. Roeddwn ni yn y cyfarfod gyda Ken Skates yn gynharach yr wythnos yma gyda chynrychiolwyr o'r busnesau—gyda'r sector economaidd yn gyffredinol—ac mae'r math o drafodaethau mae'n sôn amdanyn nhw yn bethau sy'n digwydd yn gyson ar hyn o bryd.