Gweithgynhyrchwyr Ceir

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:45, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gobeithio bod y dyfalu ar sgwrs y digwyddwyd ei chlywed mewn bwyty neu far ym Mrwsel gydag Olly Robbins yn gywir a bod y Llywodraeth wedi diystyru 'dim bargen', ond nad yw'n dweud wrthym ei bod wedi diystyru 'dim bargen', oherwydd dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron, yn ei eiriau ef, y byddai 'dim bargen' yn drychinebus—bydd ffatrïoedd yn cau; bydd swyddi'n cael eu colli.

Heddiw—y bore yma—mae Ford wedi defnyddio'r un gair, 'trychinebus' i ddisgrifio effaith 'dim bargen' ar y DU ac mae'n dweud y bydd yn gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ddiogelu ei fuddiannau yn Ewrop. Mae wedi gwrthod gwneud unrhyw sylwadau ar adroddiad ei fod yn bwriadu symud ei holl swyddi—13,000 o swyddi yn y DU, gan gynnwys yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr—allan o'r DU mewn sefyllfa 'dim bargen'.

A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa ddealltwriaeth a gafodd gan y Prif Weinidog a Gweinidogion y DU ynghylch maint y gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w roi i'n cynhyrchwyr ceir mewn sefyllfa 'dim bargen' i'w perswadio i osgoi sefyllfa lle bydd ffatrïoedd yn cau, swyddi'n cael eu colli, a theuluoedd yn gweld yr effaith ar draws y DU, gan gynnwys yn fy etholaeth i yn Ogwr?