Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr. Credaf ei fod yn mynd i wraidd yr her sy'n ein hwynebu o ran y math o gytundeb a'r math o negodiadau y mae Prif Weinidog y DU wedi bod yn mynd ar eu trywydd, ac yn y Senedd. Mae'n methu'n gyfan gwbl ag ystyried y math o risgiau i'n heconomi a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn.
Fel Llywodraeth, rydym wedi cymryd camau i gefnogi'r sector yma yng Nghymru, ond yng nghyd-destun Brexit 'dim bargen', gallai'r rhwystrau tariff a'r rhwystrau di-dariff a ddeuai yn nghyd-destun hynny fod yn drychinebus i rannau sylweddol o'r sector, ac os caf ddweud hefyd, y gadwyn gyflenwi, sy'n ymestyn ar draws Cymru—nid wyf yn credu ein bod wedi sylweddoli'n iawn cymaint o effaith a fyddai ar y cadwyni cyflenwi hefyd.