2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 13 Chwefror 2019.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53399
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y sector modurol yng Nghymru ac yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiystyru canlyniad 'dim bargen' gan ddarparu cyngor ar gamau lliniaru. Rydym hefyd mewn cysylltiad agos iawn â Fforwm Modurol Cymru a chyrff sector ar draws y DU ar Brexit.
Rwy'n gobeithio bod y dyfalu ar sgwrs y digwyddwyd ei chlywed mewn bwyty neu far ym Mrwsel gydag Olly Robbins yn gywir a bod y Llywodraeth wedi diystyru 'dim bargen', ond nad yw'n dweud wrthym ei bod wedi diystyru 'dim bargen', oherwydd dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron, yn ei eiriau ef, y byddai 'dim bargen' yn drychinebus—bydd ffatrïoedd yn cau; bydd swyddi'n cael eu colli.
Heddiw—y bore yma—mae Ford wedi defnyddio'r un gair, 'trychinebus' i ddisgrifio effaith 'dim bargen' ar y DU ac mae'n dweud y bydd yn gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ddiogelu ei fuddiannau yn Ewrop. Mae wedi gwrthod gwneud unrhyw sylwadau ar adroddiad ei fod yn bwriadu symud ei holl swyddi—13,000 o swyddi yn y DU, gan gynnwys yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr—allan o'r DU mewn sefyllfa 'dim bargen'.
A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa ddealltwriaeth a gafodd gan y Prif Weinidog a Gweinidogion y DU ynghylch maint y gefnogaeth y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'w roi i'n cynhyrchwyr ceir mewn sefyllfa 'dim bargen' i'w perswadio i osgoi sefyllfa lle bydd ffatrïoedd yn cau, swyddi'n cael eu colli, a theuluoedd yn gweld yr effaith ar draws y DU, gan gynnwys yn fy etholaeth i yn Ogwr?
Diolch i'r Aelod am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr. Credaf ei fod yn mynd i wraidd yr her sy'n ein hwynebu o ran y math o gytundeb a'r math o negodiadau y mae Prif Weinidog y DU wedi bod yn mynd ar eu trywydd, ac yn y Senedd. Mae'n methu'n gyfan gwbl ag ystyried y math o risgiau i'n heconomi a amlinellwyd gan yr Aelod yn ei gwestiwn.
Fel Llywodraeth, rydym wedi cymryd camau i gefnogi'r sector yma yng Nghymru, ond yng nghyd-destun Brexit 'dim bargen', gallai'r rhwystrau tariff a'r rhwystrau di-dariff a ddeuai yn nghyd-destun hynny fod yn drychinebus i rannau sylweddol o'r sector, ac os caf ddweud hefyd, y gadwyn gyflenwi, sy'n ymestyn ar draws Cymru—nid wyf yn credu ein bod wedi sylweddoli'n iawn cymaint o effaith a fyddai ar y cadwyni cyflenwi hefyd.
Yn amlwg, rydym yn dal i aros yn eiddgar i glywed a fydd Ineos yn dod â'u cerbyd newydd i Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach na Phortiwgal. Ond testun pryder oedd clywed y diwrnod o'r blaen, hyd yn oed os yw'r gwaith hwn yn dod i'r DU, na fydd yn ddigon o bosibl i achub y ffatri Ford; am ei bod yn ffatri Ford, wrth gwrs, mae penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd yn effeithio arni a'r hyn y mae ef yn ei wneud yn America i gefnogi'r diwydiant yn y fan honno, sy'n effeithio ar botensial dur a gweithgynhyrchu ceir yma. A allwch ddweud wrthym pa waith a wnaethoch gyda Gweinidog yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar nodi pa gyfleoedd eraill a fydd ar gael ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru, ond yn benodol iawn, beth y mae Cymru yn ei wneud i wthio yr hyn a ddylai fod yn bwynt gwerthu unigryw i ni o ran arloesedd dur o fewn dinas-ranbarth bae Abertawe, er enghraifft; ein hardaloedd menter, gydag un ohonynt yn ymroddedig i'r sector modurol; ac yn wir, hyrwyddo'r hyn rydym yn dda am ei wneud gyda gwaith ymchwil modurol? Oherwydd dyna sy'n mynd i'n gwneud yn ddeniadol i bartneriaid byd-eang eraill maes o law, er gwaethaf y bygythiadau sy'n ein hwynebu yn awr.
Cytunaf â disgrifiad yr Aelod o'r bygythiad. Gwn fod hon yn flaenoriaeth allweddol i Ysgrifennydd yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth, er enghraifft, yn uwchsgilio'r gweithlu ymhellach yn rhai o'r cwmnïau hyn yn ddimensiwn sylweddol i ddenu busnesau i Gymru yn y sectorau hyn, a hefyd i alluogi'r cwmnïau hyn ymhellach i gystadlu o fewn eu rhwydweithiau rhyngwladol eu hunain am adnoddau, sy'n ddimensiwn allweddol i rai o'r problemau a wynebwn yn hyn o beth.
O ran y strategaeth sy'n edrych tuag allan yng Nghymru yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi pellach yn y sectorau hyn, gwn fod hynny'n brif flaenoriaeth i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, ond rhaid imi ddweud, os ydym yn wynebu'r math o berthynas y mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn barod i'w hystyried gyda'r farchnad sengl yn y pen draw, ni fydd hynny'n cryfhau llaw Llywodraeth Cymru nac unrhyw un o'r cwmnïau hyn wrth ymladd am adnoddau ac ymladd am gyfleoedd ar gyfer eu gweithluoedd.