Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 13 Chwefror 2019.
Wel, rwy'n anghytuno â'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch llawer o'r hyn y mae newydd ei ddweud, oherwydd, i bob pwrpas, sail y cytundeb y llwyddodd yr UE i'w wasgu o'r Llywodraeth yw aelodaeth Prydain o'r undeb tollau ac yn wir, y farchnad sengl i bob pwrpas am fod aliniad rheoleiddio yn rhan annatod ohono, ac nid oes dyddiad terfyn. Felly, yn yr amgylchiadau hynny, nid oes unrhyw gymhelliad i'r UE wella ei gynnig oherwydd mae popeth y mae eu heisiau ar y bwrdd eisoes. Felly, pam y dylai gytuno i ganiatáu i Brydain adael yr UE maes o law pan fydd wedi ein cael ni yn union lle mae eisiau i ni fod mewn gwirionedd—o fewn yr Undeb Ewropeaidd ond heb lais a phleidlais? Ac felly, mae hynny'n golygu parhad aelodaeth Prydain o'r UE yn barhaol mewn gwirionedd—sef yn union yr hyn y mae'r Blaid Lafur am ei weld.