Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 13 Chwefror 2019.
Credaf hefyd fod ceisio ail-drafod y cytundeb gyda'r UE ar sail llinellau coch presennol y Prif Weinidog yn strategaeth optimistaidd tu hwnt ar ei rhan. Wrth gwrs, rydym yn gwybod bod yr UE wedi dweud pe bai'n symud oddi wrth y llinellau coch, fod yna ddewisiadau eraill ar y bwrdd, ac unwaith eto, buaswn yn annog y Prif Weinidog i fynd ar drywydd y rheini.