Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Chwefror 2019.
Cytunaf â disgrifiad yr Aelod o'r bygythiad. Gwn fod hon yn flaenoriaeth allweddol i Ysgrifennydd yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mae'r buddsoddiad a wnaed gan y Llywodraeth, er enghraifft, yn uwchsgilio'r gweithlu ymhellach yn rhai o'r cwmnïau hyn yn ddimensiwn sylweddol i ddenu busnesau i Gymru yn y sectorau hyn, a hefyd i alluogi'r cwmnïau hyn ymhellach i gystadlu o fewn eu rhwydweithiau rhyngwladol eu hunain am adnoddau, sy'n ddimensiwn allweddol i rai o'r problemau a wynebwn yn hyn o beth.
O ran y strategaeth sy'n edrych tuag allan yng Nghymru yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi pellach yn y sectorau hyn, gwn fod hynny'n brif flaenoriaeth i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, ond rhaid imi ddweud, os ydym yn wynebu'r math o berthynas y mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn barod i'w hystyried gyda'r farchnad sengl yn y pen draw, ni fydd hynny'n cryfhau llaw Llywodraeth Cymru nac unrhyw un o'r cwmnïau hyn wrth ymladd am adnoddau ac ymladd am gyfleoedd ar gyfer eu gweithluoedd.