Gweithgynhyrchwyr Ceir

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:47, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, rydym yn dal i aros yn eiddgar i glywed a fydd Ineos yn dod â'u cerbyd newydd i Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach na Phortiwgal. Ond testun pryder oedd clywed y diwrnod o'r blaen, hyd yn oed os yw'r gwaith hwn yn dod i'r DU, na fydd yn ddigon o bosibl i achub y ffatri Ford; am ei bod yn ffatri Ford, wrth gwrs, mae penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd yn effeithio arni a'r hyn y mae ef yn ei wneud yn America i gefnogi'r diwydiant yn y fan honno, sy'n effeithio ar botensial dur a gweithgynhyrchu ceir yma. A allwch ddweud wrthym pa waith a wnaethoch gyda Gweinidog yr economi a'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar nodi pa gyfleoedd eraill a fydd ar gael ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru, ond yn benodol iawn, beth y mae Cymru yn ei wneud i wthio yr hyn a ddylai fod yn bwynt gwerthu unigryw i ni o ran arloesedd dur o fewn dinas-ranbarth bae Abertawe, er enghraifft; ein hardaloedd menter, gydag un ohonynt yn ymroddedig i'r sector modurol; ac yn wir, hyrwyddo'r hyn rydym yn dda am ei wneud gyda gwaith ymchwil modurol? Oherwydd dyna sy'n mynd i'n gwneud yn ddeniadol i bartneriaid byd-eang eraill maes o law, er gwaethaf y bygythiadau sy'n ein hwynebu yn awr.