Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 13 Chwefror 2019.
Nawr, rydym wedi gwrando ar y prif weithredwr a chadeirydd y bwrdd yn rhoi sicrwydd fod adolygiad Grant Thornton wedi mynd i graidd problemau Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd yn fan cychwyn ar gyfer ailadeiladu sylfaenol. Fodd bynnag, rydym yn parhau'n bryderus na oes gan aelodaeth y bwrdd ddigon o wybodaeth am y sector pren—pwynt a wnaed gan Adam Price yn ystod y cwestiynau ddoe—y credwn fod ei angen yn ddirfawr er mwyn darparu'r mewnwelediad hanfodol a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol i ymdrin â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i chwalu'r rhaniadau diwylliannol drwy ddarparu cyswllt hanfodol rhwng y bwrdd a'r is-adran goedwigaeth. Rydym yn parhau'n bryderus ynglŷn ag i ba raddau y mae gan y bwrdd y gymysgedd gywir o sgiliau a gallu sydd eu hangen arno i drawsnewid y sefydliad.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r archwilydd cyffredinol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn olaf ac yn fwy diweddar, Grant Thornton, wedi craffu ar ddigwyddiadau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd fforensig, gan amlygu nifer o ddiffygion sylfaenol ac amheuon o'r radd fwyaf, a diolch i'r prif weithredwr presennol, mewn gwirionedd, fod yr adolygiad hwnnw wedi'i gomisiynu yn y ffordd y gwnaethpwyd. Ond mae un cwestiwn yn aros: lle mae Llywodraeth Cymru wedi bod drwy gydol y broses hon? Pe bai hwn yn fwrdd iechyd, efallai y byddem wedi gweld y sefydliad yn cael ei wneud yn destun mesurau arbennig fel mater o frys, ac eto am y tair blynedd diwethaf, fwy neu lai, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi parhau i weithredu allan o reolaeth er i'w gyfrifon gael eu cymhwyso dair blynedd yn olynol ac er i'w drefniadau llywodraethu gael eu tanseilio'n llwyr a'u cwestiynu, heb sôn am y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus a gamreolwyd.
Pan sefais yn y Siambr hon fis Gorffennaf diwethaf i fynegi pryderon difrifol am Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, fel oedd y teitl bryd hynny yn falch fod Cyfoeth Naturiol Cymru, mewn ymateb i gymhwyso cyfrifon 2015-16, wedi cyfaddef, wrth edrych yn ôl, y byddent wedi ymdrin â phethau mewn ffordd wahanol. Ychwanegodd y Gweinidog fod yr argymhellion yn ein hadroddiad 2017 yn fater ar gyfer y swyddog cyfrifyddu a bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bennaf. Fe'i sicrhawyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi sefydlu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol, ac mai rôl Llywodraeth Cymru fyddai cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn y gwaith yr oedd angen iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle ar gyfer y dyfodol.
Dywedwyd wrthym hefyd fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer cyrff hyd braich yng Nghymru, a bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel corff hyd braich, yn cael ei lywodraethu gan gytundeb fframwaith cadarn sy'n adlewyrchu'r egwyddorion a nodwyd yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'.
Yn ystod ein gwaith craffu cychwynnol, gofynnodd Cyfoeth Naturiol Cymru am ddiffiniad manylach o'r termau 'newydd', 'dadleuol', ac 'yn arwain at sgil effeithiau' yn eu fframwaith llywodraethu presennol. Gwnaethpwyd y cais hwn yn benodol i fynd i'r afael ag argymhelliad yr archwilydd cyffredinol fod y contractau pren yn newydd, yn ddadleuol ac yn arwain at sgil effeithiau, ac felly y dylent fod wedi cyflwyno eu cynigion i'r adran yn Llywodraeth Cymru sy'n noddi'r corff yn unol â'r fframwaith llywodraethu presennol. Dywedwyd wrth y Siambr hon, fel rhan o'r adolygiad presennol o gyrff hyd braich, y rhoddir ystyriaeth i ddarparu mwy o eglurder ynghylch y materion hyn.
Fodd bynnag, er gwaethaf hyn i gyd, ychydig sydd wedi newid, mae'n ymddangos, gan arwain at gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18, gyda'r archwilydd cyffredinol yn seilio'i farn gymhwyso ar gynnig Cyfoeth Naturiol Cymru i ymrwymo i gontractau trosiannol yr ystyriai eu bod yn newydd, yn ddadleuol a/neu'n arwain at sgil effeithiau. Er bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi hysbysu Llywodraeth Cymru ynglŷn â'i fwriad i gyflwyno trefniadau trosiannol, mae'n destun pryder na chawsant eu cyfeirio'n ffurfiol ganddo at Lywodraeth Cymru yn ôl y gofyn. Ymddengys na weithiodd ymagwedd ymddangosadol hyd brach Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn, ac er cael sicrwydd ar ôl sicrwydd, nid oes dim wedi newid gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
I wneud pethau'n waeth, amlygodd adolygiad Grant Thornton y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno ffurflen gontract newydd a gwahanol, gwerthiannau sefydlog plws, yn ystod 2016, sy'n codi pryderon difrifol iawn ynghylch cyflwyno, monitro a rhoi cyfrif am y contractau newydd hyn. Mae'r contractau hyn yn anarferol, a chredwn eu bod yn creu goblygiadau posibl mewn perthynas â barn yr archwilydd cyffredinol ar reoleidd-dra cyfrifon blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2018-19. Mae'r contractau'n berthnasol i oddeutu un rhan o chwech o werthiannau pren blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n naturiol ein bod yn poeni bod hyn yn golygu bod yna risg bosibl y bydd cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cymhwyso am bedwaredd flwyddyn yn olynol. Nawr, does bosib nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru roi camau mwy cadarnhaol ar waith i gefnogi ac i fynd i'r afael â phroblemau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Hefyd, drwy ei waith, mae'r pwyllgor wedi ystyried adolygiad mewnol Llywodraeth Cymru o'r trefniadau'n ymwneud â chyrff hyd braich, a arweiniodd at gynllun gweithredu a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018. Cawsom ohebiaeth hefyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol i'r pwyllgor yn ôl ym mis Medi y llynedd a ddarparai ragor o wybodaeth ar yr adolygiad, ymysg trefniadau newydd eraill sydd ar y gweill. Mae'r llythyr yn nodi, ac rwy'n dyfynnu:
Cael gwared ar y 'Gweithdrefnau Galw i Mewn' h.y. gofyniad i'n Cyrff Hyd Braich atgyfeirio atom am gymeradwyaeth ar gyfer categorïau penodol o benderfyniadau, megis tendrau unigol uwchlaw trothwy penodedig neu faterion sy'n newydd ac yn ddadleuol.
Rydym wedi cwestiynu Llywodraeth Cymru ymhellach ynghylch cael gwared ar y weithdrefn galw i mewn a sut y byddai materion megis y rhai a ddigwyddodd o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu nodi yn y dyfodol. Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol wrthym, ac unwaith eto, rwy'n dyfynnu:
mai dyna oedd un o ganlyniadau cadarnhaol yr adolygiad o gyrff hyd braich, i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi arweiniad clir iawn a mwy o gefnogaeth iddynt. Rydym yn cyfathrebu'n fwy rheolaidd â hwy, rydym yn nodi canllawiau clir iawn ynghylch disgwyliadau sydd gennym, ac fel y dywedais, yn dod â hwy ynghyd dair gwaith y flwyddyn ar gyfer y fforwm hwn er mwyn trafod blaenoriaethau a rhannu arferion gorau, yn y bôn, o ran sut y gallwn reoli arian cyhoeddus yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn symud tuag at system o roi mwy o annibyniaeth i gyrff hyd braich ar adeg pan fo un o'i chyrff mwyaf mewn cyfyngder, ac wedi methu rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am broblemau difrifol, neu ar y gorau, wedi methu glynu at reolau a gweithdrefnau llywodraethu. Teimlwn y bydd y dull newydd hwn o weithredu yn lleihau'r cyfleoedd i ddarparu sicrwydd angenrheidiol ynghylch gweithredoedd cyrff hyd braich.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid aros i weld beth sy'n digwydd nesaf i Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei arweinyddiaeth newydd, ond mae'n amlwg fod pryderon difrifol o hyd ynghylch trefniadau llywodraethu mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru a'r modd y mae'n gweithredu fel sefydliad. Nid yw'n glir eto i unrhyw un sut y caiff newid ei gyflwyno, ac mae'r dasg o'u blaenau'n aruthrol, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru yr holl offer sydd ei angen arno bellach i wneud y gwaith o drawsnewid y sefydliad, a darparu'r gwasanaethau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Byddwn yn rhoi'r amser a'r lle sydd ei angen arnynt yn awr i'r sefydliad a'i arweinwyr allu cyflawni newid, ond byddwn yn gofyn am ddiweddariad ar ddiwedd y flwyddyn.