6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:15, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Yn ôl ym mis Mawrth 2017, gosododd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd adroddiad ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru gerbron y Cynulliad a nodai ei resymau dros gymhwyso barn reoleiddiol 2015-16 ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyfeiriodd yr adroddiad at benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ddyfarnu wyth contract gwerthu pren gwerth uchel i weithredwr melin lifio ym mis Mai 2014. Fel pwyllgor, cynaliasom ymchwiliad i'r materion hyn a chyhoeddi adroddiad ym mis Mehefin 2017 a ddaeth i'r casgliad:

'y gallai ac y dylai CNC fod wedi sicrhau bod llywodraethu da ar waith yn ei broses gontractio, ac o fethu â sefydlu trefniadau llywodraethu effeithiol, ni allai

ddangos ei fod wedi gweithredu'n gyfreithlon a bod y contractau a ddyfarnwyd yn cynrychioli gwerth am arian.'

Roeddem hefyd yn argymell ar y pryd y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru

'[g]ynnal gwerthusiad llawn o'i drefniadau llywodraethu mewn perthynas â phrosesau contractio, gan amlinellu’n glir y gwersi a ddysgwyd'.

Nawr, gwibiwch ymlaen i 2018, ac mae'r pwyllgor yn ôl yn yr un sefyllfa, wedi i'r Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd gymhwyso datganiadau ariannol 2017-18 Cyfoeth Naturiol Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol, ac am yr un rhesymau'n union. Roeddem yn hynod o siomedig, er gwaethaf canfyddiadau adroddiadau blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch ymagwedd Cyfoeth Naturiol Cymru tuag at drafodion gwerthu pren, fod cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'u cymhwyso am y drydedd flwyddyn yn olynol. Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad pellach gennym ym mis Tachwedd y llynedd, lle roeddem unwaith eto'n nodi nifer o faterion a oedd yn peri pryder mewn perthynas â dyfarnu'r contractau pren hyn, gyda nifer ohonynt yn dal heb eu hesbonio.

Nid yn lleiaf, testun dryswch i ni oedd bod y penderfyniad—wrth ddyfarnu'r contractau hyn—i ddilyn proses y tu allan i'r rheolau caffael wedi'i wneud yn erbyn cefndir yr adroddiad deifiol gan yr archwilydd cyffredinol a oedd yn lleisio pryderon am y math penodol hwnnw o broses. Yn wir, cofiaf Aelodau'r pwyllgor, ac un Aelod yn benodol, yn cyfeirio at hyn fel trosedd a gyflawnwyd ddwywaith, cymaint oedd pryder y pwyllgor ar y pryd. Awgrymwyd i'r pwyllgor fod methiant diwylliannol wedi bod o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gweithdrefnau llywodraethu, a bod angen ailwampio difrifol.

Ni allem ond dod i'r casgliad fod pryderon blaenorol wedi'u diystyru, ac roedd yn ymddangos bod y penderfyniadau a ddilynodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru yn afresymegol. Roedd y rhain yn benderfyniadau a wnaethpwyd gan staff profiadol, ac mae'n anodd gweld y camau hyn fel canlyniad i anallu. Ni allwn ond dod i'r casgliad na fyddwn byth yn llwyr ddeall, neu'n cael esboniad iawn am yr hyn a ddigwyddodd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylwn ychwanegu ar y pwynt hwn fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael prif weithredwr newydd o fis Chwefror 2018, a bod cadeirydd dros dro wedi bod yn ei swydd ers 1 Tachwedd 2018 am gyfnod o 12 mis. Gyda'i gilydd, maent wedi datgan eu hymrwymiad i newid Cyfoeth Naturiol Cymru i fod yr hyn y mae'n anelu i fod. Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2018-19 fydd y cyfrifon cyflawn cyntaf a fydd yn llwyr o dan eu goruchwyliaeth hwy, felly digwyddodd unrhyw gymhwyso blaenorol cyn iddynt gael eu penodi. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud y pwynt hwnnw.

Gan symud ymlaen, roeddem yn croesawu ac yn parchu penderfyniad y prif weithredwr newydd i gomisiynu adolygiad annibynnol llawn o'r materion a godwyd yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol ar ddatganiadau ariannol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Cyflawnwyd yr adolygiad gan yr archwilwyr annibynnol Grant Thornton ac ar gais prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd yr ymchwiliad i fod yn gwbl drylwyr er mwyn datgelu'r methiannau o fewn y sefydliad yn llawn a sicrhau bod diwygio'n digwydd drwyddo draw.

Cyhoeddwyd canfyddiadau'r adolygiad ar 4 Chwefror eleni a chawsant eu hystyried gennym ar 11 Chwefror. Mae adolygiad Grant Thornton yn peri pryder pellach gan ei fod yn mynd ati'n fwy manwl i archwilio'r materion a godwyd mewn adroddiadau blaenorol ar drafodion gwerthu pren Cyfoeth Naturiol Cymru. Fodd bynnag, ni ddatgelodd yr adroddiad unrhyw beth annisgwyl, nac unrhyw beth newydd yn wir, ond roedd yn codi cwestiynau pellach ynghylch pryd y gwelwn newid yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn bwysicach: a yw'r materion sy'n ymwneud â gwerthiannau pren wedi'u cyfyngu i is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, neu a yw'r rhain yn adlewyrchu diffyg sylfaenol yn y diwylliant sefydliadol? Mae adroddiad Grant Thornton yn amlygu'r angen am un diwylliant sefydliadol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae llawer o wersi i'r sefydliad cyfan eu dysgu o hyn.

Mae'n anffodus fod uno'r tri sefydliad yn un wedi gadael gwaddol o wahaniaethau diwylliannol dwfn na chawsant eu datrys erioed. Fodd bynnag, rydym yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd i ni gan brif weithredwr a chadeirydd newydd y bwrdd fod gwaith yn mynd rhagddo ar ad-drefnu'r sefydliad drwyddo draw, a newid tuag at sefydliad sy'n fwy seiliedig ar le y gobeithir y bydd yn ei uno'n fwy trylwyr.