7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 13 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 5:12, 13 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, sôn am ragrith syfrdanol. Rhaid imi ddweud bod gennyf bryderon dwys, fel sydd gan bawb ohonom, ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth Lafur wedi ymdrin â hyn yma, ond nid wyf am gymryd unrhyw wersi—ac ni fuaswn yn disgwyl i Lywodraeth Lafur Cymru wneud chwaith—gan yr un Ceidwadwr ar weinyddu budd-daliadau i bobl anabl. Mae fy nghyd-Aelod, Leanne Wood newydd ei ddisgrifio'n gywir fel rhywbeth cwbl warthus, ac a dweud y gwir—er bod gennyf barch mawr at Mark Isherwood fel unigolyn—rwy'n ei chael hi'n anodd tu hwnt ystyried y negeseuon hynny oddi wrtho. Gwn ei fod yn eu credu'n llwyr ei hun, ond mae'r blaid y mae'n ei chynrychioli yn y lle hwn yn ymddwyn mewn ffordd wahanol iawn ar ben arall yr M4, ac rwy'n falch o dderbyn ymyriad gan Mark Isherwood.