Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 13 Chwefror 2019.
Diolch, Lywydd. Mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis drostynt eu hunain. Roedd y gronfa byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl iawn i ddewis byw bywyd annibynnol yn y gymuned, yn hytrach nag mewn gofal preswyl. Rwy'n cynnig gwelliant 2, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru
'i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol.'
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfnod pontio o ddwy flynedd o fis Ebrill 2017 ymlaen, pan fyddai'n ofynnol i bawb a oedd yn derbyn grant byw'n annibynnol Cymru, neu'r GBAC, gael yr elfen hon o'u hanghenion gofal wedi'i hasesu gan eu hawdurdod lleol.
Mae cael gwared ar y grant ar 31 Mawrth yn bradychu hawliau pobl anabl i fyw'n annibynnol ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Yn 2015, cafodd y gronfa byw'n annibynnol ei datganoli gan Lywodraeth y DU i awdurdodau lleol yn Lloegr a'r Llywodraethau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gweithiodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol i sefydlu'r GBAC, ond fel arall ni wnaeth ddim ar wahân i gynnal ymarfer ymgynghori a sefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, y dywed ei fod wedi cynhyrchu amrywiaeth o safbwyntiau.
Ar y llaw arall, mae Llywodraeth yr Alban yn nodi bod ei chynllun newydd wedi'i gydgynhyrchu gan weithgor y gronfa byw'n annibynnol, gyda chynrychiolaeth o Lywodraeth yr Alban, cronfa byw'n annibynnol yr Alban, pobl anabl, gofalwyr, grwpiau anabledd ac awdurdodau lleol. Lansiodd yr Alban gronfa byw'n annibynnol yr Alban yn sgil hynny er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy'n ei derbyn ddewis a rheolaeth. Dewisodd Gogledd Iwerddon ymuno â chynllun yr Alban, ac mae pobl anabl a grwpiau anabl yng Nghymru wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar anabledd eu bod eisiau ymuno â'r cynllun hwnnw hefyd.
Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, na wnaeth ddim ond trosglwyddo'r cyllid blynyddol a ddaeth i law gan Lywodraeth y DU ar gyfer hyn i awdurdodau lleol, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban £5 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol hefyd. Ym mis Tachwedd 2016, dadleuodd y Gweinidog yma ar y pryd fod trosglwyddo'n llawn i gyfrifoldeb awdurdod lleol yn cydraddoli mynediad at gymorth ymhlith pobl anabl ac yn rhwystro'r GBAC rhag dod yn anghynaladwy. Dywedodd y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones,
'Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol... gyflawni eu rhwymedigaethau i bobl anabl a rhoi digon o arian o'r neilltu i’w hanghenion ariannol gael eu cydnabod a'u bodloni', a bod awdurdodau lleol, meddai,
'yn atebol i'w hetholwyr os byddant yn dilyn polisïau y mae'r etholaeth yn credu eu bod yn annerbyniol.'
Yn anffodus, nid oes gan bobl ag anabledd difrifol lawer o bleidleisiau. Fodd bynnag, awgryma amcangyfrifon Llywodraeth Cymru a gafwyd gan ymgyrchwyr anabl y bydd toriad i gyllid dros 200 o bobl a oedd yn arfer cael y GBAC, a chyfaddefodd rhai awdurdodau lleol wrthynt fod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n derbyn cymorth ar hyn o bryd drwy'r GBAC eisoes wedi cael toriad i'w pecynnau cymorth. Naw wfft i'r datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai y llynedd fod awdurdodau lleol yn adrodd bod y rhan fwyaf o bobl yn derbyn cymorth tebyg i'r hyn yr oeddent wedi'i gael gyda'u taliadau cronfa byw'n annibynnol, heb i unrhyw broblemau sylweddol godi. Ar bwy ar y ddaear y maent yn gwrando?
Cadeiriais gyfarfod ym mis Ionawr o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar anabledd yn Wrecsam, lle roedd nifer fawr iawn o bobl yn bresennol. Yn y cyfarfod hwn, pwysleisiodd arweinydd ymgyrch Achub Grant Byw'n Annibynnol Cymru, Nathan Davies o Wrecsam, y deuthum i'w adnabod dros flynyddoedd lawer, fod hyn yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng aros yn y gwely neu godi o'r gwely, ynglŷn â chael cinio neu beidio â chael cinio, am gael rheolaeth neu gael eich rheoli. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cytuno gyda Nathan nad ydynt yn deall pwysigrwydd un gair i bobl anabl—sef annibyniaeth—a'r effaith ar iechyd meddwl a lles a'r gallu i ryngweithio â'r gymdeithas.
Dyma brofiad bywyd yn siarad, yn syth o lygad y ffynnon, a gofynnwyd i mi gael atebion gan fod amser yn brin. Wedyn codais y mater, fel yr addewais, gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y datganiad busnes yma. Fel y dywedodd Nathan Davies yn ei lythyr agored at y Prif Weinidog newydd, mae'r adolygiad dwfn a gyflawnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi perfformiad awdurdodau lleol mewn perthynas â throsglwyddo'r GBAC yn llawn o gamgymeriadau ac a dweud y gwir, nid yw'n werth y papur y mae wedi'i ysgrifennu arno. Sut y gall ymchwiliad i amgylchiadau rhoi diwedd ar y GBAC fod yn derfynol heb fod wedi ymgynghori â'r bobl anabl yr effeithir arnynt?
Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU na fydd angen ailasesu pobl ag anabledd gydol oes, salwch neu gyflwr iechyd difrifol mwyach ar gyfer lwfans cyflogaeth a chymorth a'r credyd cynhwysol. Yn 2018, cyhoeddodd eithriad cyfatebol ar gyfer y taliad annibyniaeth personol. Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddoe y bydd y rhai a arferai dderbyn taliadau'r gronfa byw'n annibynnol sy'n 'anhapus' â'u pecynnau gofal a chymorth yn cael cynnig asesiad arall. Am ragrith syfrdanol.