Cau Ysgolion yn Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:30, 19 Chwefror 2019

Jest i droi at y cwestiwn cyntaf, ac i ddweud bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi cyhoeddi hysbysiadau i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ac Ysgol Gynradd Craigcefnparc. Daeth y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer y ddau gynnig i ben ar 6 Chwefror. Rhaid i gabinet y cyngor benderfynu nawr a ydyn nhw am gymeradwyo neu wrthod y cynigion. Does dim modd i mi wneud sylw ar gynigion a allai gael eu cyfeirio yn nes ymlaen at Weinidogion Cymru.