Cau Ysgolion yn Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:32, 19 Chwefror 2019

Diolch am yr ateb yna. Ar lethrau unig, rhamantus y Parsel Mawr saif pentref Felindre, ac mae Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, a leolir mewn ardal naturiol Gymreig i'r gogledd o Abertawe, wedi'i rhestru ymhlith yr ysgolion bychain gwledig a warchodir gan god gan Lywodraeth Cymru. Er bod y broses o gau'r ysgol wedi dechrau cyn i'r cod gwarchodol yma ddod i fodolaeth, fe ddywedodd Cyngor Abertawe y bydden nhw'n dilyn egwyddorion ac ysbryd y cod yna. Ond, er yr addo yma, mae'r gymuned leol yn hynod o siomedig gan taw cau'r ysgol yn hytrach na ffederaleiddio gydag ysgol arall, neu edrych ar opsiynau eraill hyd yn oed, oedd ymateb y cyngor i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Os taw dyma fydd profiad ardaloedd eraill yng Nghymru, siom enfawr fydd y cod newydd yma wrth drio amddiffyn ysgolion gwledig Cymraeg. 

Mae rhyw 600 o blant yr un yn ysgolion Cymraeg dinesig cyfagos, fel Lôn Las a Phontybrenin, ond ar yr unigeddau, mae'r sefyllfa angen ateb amgen. Felly, Brif Weinidog, a wnewch chi edrych mewn i'r achos yma—rwy'n clywed beth rŷch chi'n ei ddweud, ond mae'r mater yma'n hollbwysig—a gwneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod y gymuned yn Felindre, a chymunedau tebyg, yn derbyn chwarae teg yn ôl eich cod eich hunan chi?