Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 19 Chwefror 2019.
Prif Weinidog, ar 22 Ionawr, dywedasoch wrth y Siambr hon:
'y ddadl yn y Senedd dros yr wythnos nesaf yw'r cyfle olaf i gefnogi'r ffurf honno ar Brexit...sy'n seiliedig yn y bôn ar barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau...os na ellir gwneud hynny,...yr unig ddewis sydd ar ôl wedyn yw pleidlais gyhoeddus unigol er mwyn datrys yr anghytundeb llwyr.'
Nawr, dehonglwyd hynny yn eang fel eich bod yn dweud bod terfyn amser o saith niwrnod. Methodd y Senedd â bodloni'r terfyn amser a bennwyd gennych chi, a dyma ni sawl wythnos yn ddiweddarach. Felly, mae fy nghwestiwn i chi yn syml iawn: beth yw eich terfyn amser newydd? Ai ymhen wyth diwrnod, sef 27 Chwefror? Ai diwedd y mis hwn? Ai ym mis Mawrth? Neu ai 10.59 p.m. ar 29 Mawrth?