Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolchaf i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd yn ei gyflwyniad, ac am dynnu sylw at yr effaith y bydd y newyddion gan Honda heddiw yn ei chael ar economi Cymru, yn ogystal â'r economi yn Swindon. Bydd cyflenwyr o Gymru i gyfleuster Honda yn Swindon yn cael eu heffeithio, wrth gwrs, gan y newyddion hyn.
Mae swyddogion fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn Llundain heddiw yn siarad â swyddogion yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol sy'n gweithio yn y maes modurol, ac mae hynny'n rhan o'n hymdrech uniongyrchol i ganfod o ble y bydd bygythiadau i economi Cymru ac i sector modurol Cymru yn dod o ganlyniad i'r cyhoeddiad hwnnw sy'n peri pryder mawr. Ac wrth gwrs, mae Adam Price yn llygad ei le i dynnu sylw at bwysigrwydd y sector modurol yma yng Nghymru—oddeutu 150 o gwmnïau sy'n cyflogi tua 19,000 o bobl.
Ac mae Brexit yno yn y cefndir i'r gyfres hon o gyhoeddiadau yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar. Pan gefais gyfarfod, gyda Ken Skates, gyda swyddogion uchaf cwmni moduron Ford yma yn y Deyrnas Unedig, fe wnaethon nhw gyfeirio at bwysigrwydd y farchnad sengl ac at rwystrau di-dariff a thariff. Cyfeiriwyd ganddynt fwy fyth, Llywydd, at effaith Brexit ar symudiad gweithwyr a'u gallu i symud staff yn rhwydd ac yn gyflym ar draws ffiniau.
O ran y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un y pleidleisiwyd drosto ar lawr y Cynulliad hwn nifer fach o wythnosau yn unig yn ôl, bod yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin barhau i ddod o hyd i gytundeb y gellid ei gefnogi, a fyddai'n cefnogi economi Cymru a swyddi Cymru. Os na fydd Tŷ'r Cyffredin yn gallu gwneud hynny, ac mae'r wythnosau yn diflannu'n gyflym, yna rydym ni'n dweud mewn sefyllfa o anghytundeb llwyr bod yn rhaid i'r penderfyniad, fel y dywedodd Adam Price, fynd yn ôl at y bobl. Ac, oherwydd bod yn rhaid peidio â diystyru'r dewis hwnnw dim ond oherwydd nad oes paratoadau wedi eu gwneud ar ei gyfer, yna rydym ni hefyd yn dweud bod yn rhaid i baratoadau i alluogi hynny i ddigwydd, pe byddai ei angen, ddechrau ar unwaith.