Y Panel Adolygu Cynghorau Cymuned

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:11, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Bydd y Prif Weinidog yn cofio mai un o'r argymhellion yn yr adolygiad oedd i'r Llywodraeth archwilio sut y gellid sicrhau bod cronfa o glercod cymwysedig ar gael i gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Rwy'n gwbl ymwybodol bod rhai o'r cynghorau cymuned llai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, weithiau'n cael trafferth i ddod o hyd i'r person cywir i gefnogi eu gwaith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig o ran rhai o'r materion y mae Janet Finch-Saunders eisoes wedi eu codi. Gall y mater hwn o lywodraethu da ac atebolrwydd ddibynnu ar fod â'r aelod priodol o staff mewn swydd. Cynghorwyr yw llawer ohonyn nhw sy'n gwneud hyn ar sail rhan-amser dros ben, yn ddi-dâl, gan roi llawer i'w cymuned, ond ni ellir disgwyl iddyn nhw o reidrwydd fod â'r lefel honno o arbenigedd fel unigolion, felly mae angen y cymorth proffesiynol hwnnw arnyn nhw. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn helpu i gynorthwyo cyflenwad clercod sydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol i gynghorau cymuned?