1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Chwefror 2019.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgymeriadau presennol y panel adolygu cynghorau cymuned? OAQ53452
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Darparodd y panel adolygu annibynnol ei adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru ar 3 Hydref 2018. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno, cyflwynodd datganiad ysgrifenedig y camau i'w cymryd yn y flwyddyn galendr hon a thu hwnt mewn ymateb i'r adroddiad hwnnw.
Diolch, Prif Weinidog. Ac, wrth gwrs, yn ystod eich cyfnod chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol y gwnaethoch chi sefydlu'r panel hwnnw. Roedd y panel adolygu annibynnol, ar ôl cyflwyno ei adroddiad terfynol ar swyddogaethau'r cynghorau hyn yn y dyfodol, yn credu ei bod yn bwysig iawn bod cynghorau yn atebol am yr arian cyhoeddus y maen nhw'n ei wario, a'u bod nhw'n cael eu rheoli'n dda o ran gonestrwydd ariannol. Wrth gwrs, mae'r adroddiad gan yr archwilydd cyffredinol hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith fod nifer y barnau archwilio amodol wedi dyblu yn 2017-18, ac mae gennym ni 340 o gynghorau y mae hynny'n berthnasol iddyn nhw erbyn hyn. Ceir nifer o argymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Yn Aberconwy, mae gennym ni sefyllfa o ddigalondid ar hyn o bryd bod cyngor cymuned ym Mhenmaenmawr wedi gwario dros £100,000 o arian wrth gefn dros gyfnod o dair blynedd, gan beri llawer o bryder, yn enwedig pan nad yw rhai o'r cynghorwyr ar y cyngor hwnnw yn gwybod sut y mae'r arian hwn yn cael ei wario.
A wnewch chi ddatgan, os gwelwch yn dda, erbyn pryd y byddwch chi'n gweithredu ar argymhellion y panel adolygu annibynnol? Ac a wnewch chi hefyd egluro sut y byddwch chi, fel Prif Weinidog Cymru erbyn hyn, yn cymryd camau i gryfhau arferion ariannol cadarn a thryloywder o ran gwariant treth gyngor o ran hyn, ei braesept? Oherwydd roedd gan y cyngor penodol hwn ym Mhenmaenmawr braesept o 21 y cant flwyddyn neu ddwy yn ôl, ac mae trigolion yn bryderus dros ben erbyn hyn nad yw'r cynghorwyr eu hunain yn gwybod sut y gwariwyd y £100,000 hwn. Ceir cynghorau cymuned ledled Cymru, lle, yn syml, nad oes ganddyn nhw unrhyw arferion archwilio ar waith, ac mae atebolrwydd ariannol yn wael iawn. Felly, a wnewch chi ymchwilio i hyn os gwelwch yn dda fel mater o gryn flaenoriaeth fel bod y panel adolygu annibynnol hwnnw a'i waith yn dod yn ystyrlon yn hytrach na'i fod yn ddiystyr?
Wel, diolch i'r Aelod am hynna ac am y diddordeb y gwn iddi ei ddangos yn yr adolygiad ei hun. Gwn o'm trafodaethau gyda hi ei bod hi eisiau gweld sector cynghorau cymuned a thref sydd yn gryf ac a fydd yn gallu gwrthsefyll craffu hefyd. Rwy'n rhannu pryder yr archwilydd cyffredinol gyda'r nifer uchel parhaus o gynghorau cymuned sydd wedi cael barnau archwilio amodol. Nawr, cyfeiriodd yr Aelod at 340 ohonyn nhw, ac rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud, fel yr wyf i'n siŵr y gwnaiff hi gydnabod, fod y rhan fwyaf o'r rheini yn dramgwyddau cymharol fân o gyflwyniadau yn cael eu gwneud ychydig ddiwrnodau y tu hwnt i'r dyddiad terfyn a pheidio â defnyddio'r ffurflen gywir weithiau ac ati. Ond ceir enghreifftiau lle mae'r anhawster yn mynd y tu hwnt i hynny, a lle ceir adroddiadau buddiant cyhoeddus y bu'n rhaid i'r archwilydd cyffredinol eu cyhoeddi oherwydd ei bryder ynghylch cywirdeb yn y ffordd y defnyddiwyd arian cyhoeddus, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Nawr, mae'r archwilydd cyffredinol wedi cytuno erbyn hyn y bydd yn adolygu digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau archwilio presennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben hwn, a bydd yr adolygiad hwnnw yn rhoi cyfle i ni wneud yn siŵr bod gennym ni drefn ar waith sy'n sicrhau bod y cynghorau cymuned yn atebol yn annibynnol, a phan fyddan nhw'n defnyddio arian cyhoeddus, eu bod nhw'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n gadarn, mewn modd y gellir ei amddiffyn ac sy'n gallu gwrthsefyll craffu gan y rhai o'r tu allan i aelodaeth y cynghorau hynny.
Bydd y Prif Weinidog yn cofio mai un o'r argymhellion yn yr adolygiad oedd i'r Llywodraeth archwilio sut y gellid sicrhau bod cronfa o glercod cymwysedig ar gael i gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Rwy'n gwbl ymwybodol bod rhai o'r cynghorau cymuned llai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, y rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, weithiau'n cael trafferth i ddod o hyd i'r person cywir i gefnogi eu gwaith, ac mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig o ran rhai o'r materion y mae Janet Finch-Saunders eisoes wedi eu codi. Gall y mater hwn o lywodraethu da ac atebolrwydd ddibynnu ar fod â'r aelod priodol o staff mewn swydd. Cynghorwyr yw llawer ohonyn nhw sy'n gwneud hyn ar sail rhan-amser dros ben, yn ddi-dâl, gan roi llawer i'w cymuned, ond ni ellir disgwyl iddyn nhw o reidrwydd fod â'r lefel honno o arbenigedd fel unigolion, felly mae angen y cymorth proffesiynol hwnnw arnyn nhw. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd er mwyn helpu i gynorthwyo cyflenwad clercod sydd â'r cymwysterau a'r profiad priodol i gynghorau cymuned?
Diolchaf i Helen Mary Jones am y pwynt pwysig yna. Mae hi'n hollol iawn wrth ddweud y rhoddodd yr adroddiad bwyslais ar y cyngor cymwysedig ac annibynnol sydd ar gael i gynghorau cymuned gan eu clercod. Treuliais neithiwr, Llywydd, yng nghyfarfod cyngor cymuned Pentyrch yn fy etholaeth i. Rwy'n ymweld ag ef unwaith y flwyddyn, ac mae'n gyngor cymuned llwyddiannus iawn. Rhan o'i lwyddiant yw ei fod yn gwneud yn siŵr ei fod yn neilltuo rhai adnoddau i anfon ei glerc ar y cyrsiau hyfforddi diweddaraf, gan wneud yn siŵr bod y person hwnnw wedi'i baratoi'n dda iawn i ddarparu'r cyngor sydd ei angen arnyn nhw. Fel Llywodraeth, rydym ni'n neilltuo rhywfaint o gyllid ychwanegol i gynorthwyo cynghorau cymuned lleol i allu cael mynediad at y cyrsiau hyfforddi hynny i'w staff, a byddwn yn gweithio drwy Un Llais Cymru, y sefydliad ambarél ar gyfer cynghorau tref a chymuned, i geisio annog mwy o gynghorau i fanteisio ar y cynnig sydd yno iddyn nhw erbyn hyn.