Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 19 Chwefror 2019.
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Dai Lloyd am y pwyntiau pwysig yna. Rwy'n eu clywed nhw i gyd, ond, fel dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, mae'r penderfyniad yn dal i fod yn nwylo Cyngor Dinas a Sir Abertawe, a dwi'n siŵr bod yr Aelod wedi gwneud y pwyntiau yna i'r cyngor—y pethau mae e wedi'u dweud i ni fel Llywodraeth heddiw. Maen nhw'n dal ar y record, ac os yw'r penderfyniad yn dod i mewn i Weinidogion Cymru, byddwn ni'n gallu ailedrych ar y pwyntiau y mae e wedi'u gwneud heddiw.