Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 19 Chwefror 2019.
Wel, a gaf i ddiolch i Hefin David am ei eiriau caredig a'i gwestiwn? Rydych chi wedi tynnu sylw at waith sefydliadau lleol sydd wedi'u gwreiddio yn nhreftadaeth a hanes eich cymuned. Wrth gwrs, maen nhw hefyd yn cefnogi anghenion cymdeithasol ac yn gwella lles. Felly, a gaf i ddweud, mewn ymateb i'r cwestiwn, fod gwirfoddoli, wrth gwrs, yn parhau i fod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru a bod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi gwirfoddoli fel mynegiant pwysig o ddinasyddiaeth ac yn elfen ganolog o ddemocratiaeth, ac rydym ni'n darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, wrth gwrs, yn ogystal â'r cynghorau gwirfoddol sirol hynny ledled Cymru i ddarparu cymorth trydydd sector.