Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Sector Gwirfoddol

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:24, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn innau hefyd groesawu'r Dirprwy Weinidog i'w swyddogaeth. Roeddwn yn falch o weld bod yr elusen o Lanelli Threshold DAS, a arferai gael ei alw'n Cymorth i Fenywod Llanelli, wedi cael grant o £1.5 miliwn i ddarparu rhaglen ledled Cymru a fydd yn cynnig cymorth i fenywod a merched sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin a thrais domestig. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau trais domestig a rhywiol yn arbennig yw drwy grwpiau trydydd sector lleol, wedi'u harwain gan y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain? A pha gamau y gall y Dirprwy Weinidog a Llywodraeth Cymru eu cymryd i wrthdroi'r duedd o golli llawer o'r gwasanaethau hynny drwy brosesau tendro i gwmnïau mawr, rhyngwladol nad ydyn nhw'n deall o gwbl y cymunedau y maen nhw i fod i'w gwasanaethu, heb sôn am y dioddefwyr y maen nhw i fod i'w cynorthwyo?