Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr. Dwi’n cwrdd â’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ar 6 Mawrth i drafod yr adolygiad gydraddoldeb rhywedd. Bydd gan y cynllun cyflogadwyedd, y contract economaidd a’r Comisiwn Gwaith Teg i gyd rôl bwysig wrth daclo’r diffyg cydraddoldeb y mae adroddiad Chwarae Teg yn sôn amdano.