Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr, a llongyfarchiadau mawr ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y Siambr. Un her allweddol fydd cefnogi mwy o ferched i weithio, ond, wrth gwrs, mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr. Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol na dynion o sôn am ofalu am y teulu neu’r cartref fel rheswm dros beidio â gweithio. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y cynnig gofal plant newydd ar gyflogaeth rhieni? Ac a fydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i newid y meini prawf cymhwysedd os bydd y gwerthuso yn dangos bod angen newid?