Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 19 Chwefror 2019.
Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod y byddai Ford yn ystyried dyfodol ei weithrediadau yn y DU pe na fyddai cytundeb. Roedd hyn yn adleisio sylwadau gan Airbus fis diwethaf. Heddiw, mae gennym ni'r cyhoeddiad gan Honda, yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Nissan wedi penderfynu peidio â buddsoddi. Beth arall sydd ei angen, Llywydd, i ddangos methiant y Llywodraeth hon i gynnal amgylchedd sefydlog ar gyfer buddsoddi rhyngwladol gyda'r canlyniadau sy'n dod yn sgil hynny? Ni allwn ni sôn mwyach am y posibilrwydd y bydd Brexit yn niweidio ein heconomi—mae'r difrod yma, mae'r difrod yn digwydd, ac mae pob dydd o ansicrwydd yn erydu ymhellach hyder buddsoddwyr busnes, gyda goblygiadau hynny'n effeithio ar fywydau teuluoedd sy'n gweithio yma yng Nghymru.
Llywydd, does ond angen i chi siarad â sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau llai i glywed bod ofn cau ar bob stryd fawr ac ar bob ystâd ddiwydiannol ac ym mhob rhan o Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae Siambrau Masnach Prydain wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o'u gadael yn ddiymgeledd os bydd Brexit heb gytundeb. Ac wrth i amser brinhau, mae'r swyddi sy'n cael eu colli yn cael eu colli nawr. Mae'r buddsoddiad wedi lleihau a hynny er gwaetha'r ffaith bod llawer o gwmnïau yn casglu cyflenwadau ynghyd ar gyfer y dyfodol. Er mwyn y dyfodol hwnnw, boed i Brif Weinidog y DU wrando ar gyngor gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn—diystyru dim cytundeb, ceisio estyniad i erthygl 50 a llunio cytundeb sy'n rhoi anghenion swyddi, bywoliaeth pobl a'n heconomi yn gyntaf. Mae pob rheidrwydd ar Brif Weinidog y DU i ddiystyru dim cytundeb, a dylai wneud hynny ar unwaith. Mae'n anghyfrifol hefyd i barhau i hawlio bod y broses ymadael, sy'n cynnwys deddfwriaeth sylfaenol bwysig dros ben i ymgorffori'r cytundeb ymadael mewn cyfraith, hyd yn oed os gellir pasio pleidlais ystyrlon—y gellir gwneud hynny i gyd ymhen chwe wythnos. Nid oes posib ei wneud. Ac mae gohirio gofyn i'r Undeb Ewropeaidd yn hwy yn cynyddu'r perygl na ellir cytuno ar estyniad o'r fath. Nawr, Llywydd, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu er budd cenedlaethol, yna mae'n rhaid i'r Senedd wneud hynny, ac os yw'r Senedd ei hun yn methu â dod i benderfyniad, yna, fel y gwnaethom ni ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, rhaid dychwelyd y penderfyniad i'r bobl.
Yn y cyfamser, ac ers y trafodwyd y mater hwn ddiwethaf yn y fan yma, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n ddiflino i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol bob cyfle a gawn ni. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf i fy hun wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog, Prif Weinidog yr Alban, arweinydd yr wrthblaid, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, llefarydd y blaid Lafur ar Brexit, Syr Keir Starmer, Cadeirydd Pwyllgor Brexit Tŷ'r Cyffredin a llawer o rai eraill. Rwyf wedi bod i is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU ynglŷn â pharatoi ar gyfer Brexit, a gynhaliwyd yn Llundain, a byddaf yn mynd i Lundain drachefn i wneud hynny yfory. Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma am neilltuo amser i gwrdd â mi ar delerau lle gallwn i rannu gwybodaeth o'r cyfarfodydd hynny gydag ef a cheisio ei farn yntau hefyd.
Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar yr agenda hanfodol hon. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi bod i ddau gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop ac ar y negodiadau Ewropeaidd. Mae wedi bod yng Nghaeredin i fforwm gweinidogol ar negodiadau'r UE, ac mae wedi bod yn Llundain yn is-bwyllgor Cabinet y DU ynglŷn â pharatoadau Brexit. Ddydd Gwener diwethaf, cynhaliodd y Gweinidog cyllid gyfarfod pedair ochrog y Gweinidogion cyllid, fel y clywsoch chi, yma yng Nghaerdydd. Bu Eluned Morgan mewn cyfarfod pedair ochrog Gweinidogol ar fasnach ryngwladol yn Llundain ddoe, a bu Lesley Griffiths yn cymryd rhan mewn cyfarfod pedair ochrog Gweinidogion yr amgylchedd ddoe. Yma yn y Cynulliad, mae Gweinidogion wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a phwyllgorau penodol eraill i gyflwyno adroddiadau am ein camau gweithredu, a bu'r adroddiadau hynny yn destun craffu. Y tu hwnt i'r Cynulliad, rydym ni'n dal mewn cysylltiad agos â'r amrywiaeth ehangaf o bartneriaid yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, roedd Ken Skates yn cadeirio cyfarfod Cyngor Datblygu'r Economi i drafod y paratoadau ar gyfer Brexit, a heddiw, mae'r Gweinidog iechyd wedi cadeirio cyfarfod o'r grŵp rhanddeiliaid iechyd Ewropeaidd.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i helpu i baratoi a lliniaru effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol, a gyhoeddwyd yn gynharach y bore yma, yn cyfeirio at swyddogaeth flaenllaw Llywodraeth Cymru o ran nodi a rheoli risgiau cenedlaethol a strategol, gan weithio gydag eraill yng Nghymru a thu hwnt i wneud hynny. Ond y gwir plaen o hyd, Llywydd, yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn peri risg na ellir mo'i liniaru, ond y gellir ei osgoi. Rhaid i Brif Weinidog y DU newid cyfeiriad cyn iddi fynd yn rhy hwyr i hynny ddigwydd.