3. Statement by the First Minister: Latest developments in the UK Government's Brexit Negotiations

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:22, 19 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Gyda 38 diwrnod i fynd bellach nes bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid ydym ni ronyn yn agosach at ddatrysiad i fater mwyaf dybryd ein hoes. Yr wythnos diwethaf, methodd Llywodraeth y DU â phasio hyd yn oed cynnig diflas yn Nhŷ'r Cyffredin oherwydd taerineb penboeth Brexitwyr digyfaddawd fod dim cytundeb yn ganlyniad derbyniol. Dangosodd hynny unwaith eto pa mor hynod beryglus ac annoeth yw polisi Prif Weinidog y DU o ddibynnu ar yr un grŵp yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n barod i weld y wlad hon yn mynd dros ymyl dibyn Brexit. Ni fydd eu cefnogaeth, hyd yn oed os gellid ei sicrhau, byth yn rhoi'r mwyafrif dibynadwy sydd ei angen i lywio cytundeb a'i holl ddeddfwriaeth gyfatebol drwy'r broses Seneddol. Mae'r ffordd ddi-glem y mae Prif Weinidog y DU wedi mynd ati yn tanseilio ymhellach unrhyw gymorth posib sy'n dal yn weddill gartref ac yn afradu'r gweddillion pitw o ewyllys da sy'n parhau tuag at y DU yng ngweddill yr UE. Siawns ei bod hi'n amlwg bod yn rhaid i'r Prif Weinidog fynd ati yn awr i ddod o hyd i fwyafrif, y credaf fod modd dod o hyd iddo, ar gyfer y math o Brexit a nodir yn y cynigion a gyhoeddwyd gennym ni a Phlaid Cymru dros ddwy flynedd yn ôl, ac a adlewyrchwyd yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd y gwrthbleidiau at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf.

Llywydd, mae gwaith archwilio priodol yn dangos pa mor ddiffygiol yw pob gwrthwynebiad o eiddo'r penboethiaid i'r math o berthynas economaidd yr ydym ni'n ei chynnig. Yn gyntaf oll, mae Grŵp Ymchwil Ewropeaidd y Blaid Geidwadol yn dweud na allan nhw ystyried aelodaeth o undeb tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond nid bygythiad dirfodol yw undeb tollau, mae'n anghenraid ymarferol fel ein bod ni'n dal i allu masnachu'n effeithiol ar y llwyfan byd-eang. Yn ail, dywedir wrthym ni y byddai trefniant o'r fath yr ydym ni'n ei hyrwyddo yn llesteirio gallu'r DU i daro bargeinion masnach newydd ledled y byd. Wel, Llywydd, dyna ichi ddadansoddiad economaidd y Llywodraeth ei hun, sy'n dweud y byddai cytundebau o'r fath, hyd yn oed o ystyried y rhagdybiaethau mwyaf cadarnhaol, dim ond yn cael effaith ymylol ar ein heconomi, ac nid wyf i hyd yn oed yn cyfeirio at y methiant truenus i sicrhau mynediad parhaus i 40 cytundeb masnachu gyda 70 o wledydd eraill yn Ewrop, yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, heb sôn am y cytundebau newydd â Japan, Awstralia, Seland Newydd a Chile, y mae'r UE wedi bod yn eu negodi wrth i ninnau ymhél â Brexit. Nid yw ein ffordd ni o fynd ati, Llywydd, yn rhoi terfyn ar yr uchelgais i'r DU ymrwymo i gytundebau masnach newydd. Fel sydd eisoes wedi ei nodi gan sefydliadau megis Siambr Fasnach Iwerddon Prydain, mae yna gyfle, os gellir dangos hyblygrwydd digonol, i alluogi i'r DU negodi cytundebau masnach newydd ochr yn ochr â'r UE. Y dewis arall yw'r trychineb sy'n datblygu o ymadael heb gytundeb, a dewisais y gair hwnnw'n fwriadol, Llywydd. Mae'r anhrefn eisoes wedi dechrau, gyda buddsoddwyr yn tynnu'n ôl ac yn terfynu cynlluniau. Bydd hyn yn gwaethygu bob dydd y caniateir i'r ansicrwydd hwnnw barhau. Os wnawn ni ddisgyn dros ymyl clogwyn Brexit, mae peryg inni nid yn unig o ran y sioc tymor byr a ddaw yn sgil hynny, ond oherwydd y byddwn ni'n tanseilio ein dyfodol economaidd hirdymor.