– Senedd Cymru am 3:22 pm ar 19 Chwefror 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y datblygiadau diweddaraf yn negodiadau Brexit Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Rydw i'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gyda 38 diwrnod i fynd bellach nes bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid ydym ni ronyn yn agosach at ddatrysiad i fater mwyaf dybryd ein hoes. Yr wythnos diwethaf, methodd Llywodraeth y DU â phasio hyd yn oed cynnig diflas yn Nhŷ'r Cyffredin oherwydd taerineb penboeth Brexitwyr digyfaddawd fod dim cytundeb yn ganlyniad derbyniol. Dangosodd hynny unwaith eto pa mor hynod beryglus ac annoeth yw polisi Prif Weinidog y DU o ddibynnu ar yr un grŵp yn Nhŷ'r Cyffredin sy'n barod i weld y wlad hon yn mynd dros ymyl dibyn Brexit. Ni fydd eu cefnogaeth, hyd yn oed os gellid ei sicrhau, byth yn rhoi'r mwyafrif dibynadwy sydd ei angen i lywio cytundeb a'i holl ddeddfwriaeth gyfatebol drwy'r broses Seneddol. Mae'r ffordd ddi-glem y mae Prif Weinidog y DU wedi mynd ati yn tanseilio ymhellach unrhyw gymorth posib sy'n dal yn weddill gartref ac yn afradu'r gweddillion pitw o ewyllys da sy'n parhau tuag at y DU yng ngweddill yr UE. Siawns ei bod hi'n amlwg bod yn rhaid i'r Prif Weinidog fynd ati yn awr i ddod o hyd i fwyafrif, y credaf fod modd dod o hyd iddo, ar gyfer y math o Brexit a nodir yn y cynigion a gyhoeddwyd gennym ni a Phlaid Cymru dros ddwy flynedd yn ôl, ac a adlewyrchwyd yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd y gwrthbleidiau at Brif Weinidog y DU yr wythnos diwethaf.
Llywydd, mae gwaith archwilio priodol yn dangos pa mor ddiffygiol yw pob gwrthwynebiad o eiddo'r penboethiaid i'r math o berthynas economaidd yr ydym ni'n ei chynnig. Yn gyntaf oll, mae Grŵp Ymchwil Ewropeaidd y Blaid Geidwadol yn dweud na allan nhw ystyried aelodaeth o undeb tollau gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond nid bygythiad dirfodol yw undeb tollau, mae'n anghenraid ymarferol fel ein bod ni'n dal i allu masnachu'n effeithiol ar y llwyfan byd-eang. Yn ail, dywedir wrthym ni y byddai trefniant o'r fath yr ydym ni'n ei hyrwyddo yn llesteirio gallu'r DU i daro bargeinion masnach newydd ledled y byd. Wel, Llywydd, dyna ichi ddadansoddiad economaidd y Llywodraeth ei hun, sy'n dweud y byddai cytundebau o'r fath, hyd yn oed o ystyried y rhagdybiaethau mwyaf cadarnhaol, dim ond yn cael effaith ymylol ar ein heconomi, ac nid wyf i hyd yn oed yn cyfeirio at y methiant truenus i sicrhau mynediad parhaus i 40 cytundeb masnachu gyda 70 o wledydd eraill yn Ewrop, yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, heb sôn am y cytundebau newydd â Japan, Awstralia, Seland Newydd a Chile, y mae'r UE wedi bod yn eu negodi wrth i ninnau ymhél â Brexit. Nid yw ein ffordd ni o fynd ati, Llywydd, yn rhoi terfyn ar yr uchelgais i'r DU ymrwymo i gytundebau masnach newydd. Fel sydd eisoes wedi ei nodi gan sefydliadau megis Siambr Fasnach Iwerddon Prydain, mae yna gyfle, os gellir dangos hyblygrwydd digonol, i alluogi i'r DU negodi cytundebau masnach newydd ochr yn ochr â'r UE. Y dewis arall yw'r trychineb sy'n datblygu o ymadael heb gytundeb, a dewisais y gair hwnnw'n fwriadol, Llywydd. Mae'r anhrefn eisoes wedi dechrau, gyda buddsoddwyr yn tynnu'n ôl ac yn terfynu cynlluniau. Bydd hyn yn gwaethygu bob dydd y caniateir i'r ansicrwydd hwnnw barhau. Os wnawn ni ddisgyn dros ymyl clogwyn Brexit, mae peryg inni nid yn unig o ran y sioc tymor byr a ddaw yn sgil hynny, ond oherwydd y byddwn ni'n tanseilio ein dyfodol economaidd hirdymor.
Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod y byddai Ford yn ystyried dyfodol ei weithrediadau yn y DU pe na fyddai cytundeb. Roedd hyn yn adleisio sylwadau gan Airbus fis diwethaf. Heddiw, mae gennym ni'r cyhoeddiad gan Honda, yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf bod Nissan wedi penderfynu peidio â buddsoddi. Beth arall sydd ei angen, Llywydd, i ddangos methiant y Llywodraeth hon i gynnal amgylchedd sefydlog ar gyfer buddsoddi rhyngwladol gyda'r canlyniadau sy'n dod yn sgil hynny? Ni allwn ni sôn mwyach am y posibilrwydd y bydd Brexit yn niweidio ein heconomi—mae'r difrod yma, mae'r difrod yn digwydd, ac mae pob dydd o ansicrwydd yn erydu ymhellach hyder buddsoddwyr busnes, gyda goblygiadau hynny'n effeithio ar fywydau teuluoedd sy'n gweithio yma yng Nghymru.
Llywydd, does ond angen i chi siarad â sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau llai i glywed bod ofn cau ar bob stryd fawr ac ar bob ystâd ddiwydiannol ac ym mhob rhan o Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae Siambrau Masnach Prydain wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o'u gadael yn ddiymgeledd os bydd Brexit heb gytundeb. Ac wrth i amser brinhau, mae'r swyddi sy'n cael eu colli yn cael eu colli nawr. Mae'r buddsoddiad wedi lleihau a hynny er gwaetha'r ffaith bod llawer o gwmnïau yn casglu cyflenwadau ynghyd ar gyfer y dyfodol. Er mwyn y dyfodol hwnnw, boed i Brif Weinidog y DU wrando ar gyngor gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn—diystyru dim cytundeb, ceisio estyniad i erthygl 50 a llunio cytundeb sy'n rhoi anghenion swyddi, bywoliaeth pobl a'n heconomi yn gyntaf. Mae pob rheidrwydd ar Brif Weinidog y DU i ddiystyru dim cytundeb, a dylai wneud hynny ar unwaith. Mae'n anghyfrifol hefyd i barhau i hawlio bod y broses ymadael, sy'n cynnwys deddfwriaeth sylfaenol bwysig dros ben i ymgorffori'r cytundeb ymadael mewn cyfraith, hyd yn oed os gellir pasio pleidlais ystyrlon—y gellir gwneud hynny i gyd ymhen chwe wythnos. Nid oes posib ei wneud. Ac mae gohirio gofyn i'r Undeb Ewropeaidd yn hwy yn cynyddu'r perygl na ellir cytuno ar estyniad o'r fath. Nawr, Llywydd, os nad yw Llywodraeth y DU yn gweithredu er budd cenedlaethol, yna mae'n rhaid i'r Senedd wneud hynny, ac os yw'r Senedd ei hun yn methu â dod i benderfyniad, yna, fel y gwnaethom ni ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, rhaid dychwelyd y penderfyniad i'r bobl.
Yn y cyfamser, ac ers y trafodwyd y mater hwn ddiwethaf yn y fan yma, mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n ddiflino i gynrychioli ein buddiannau cenedlaethol bob cyfle a gawn ni. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf i fy hun wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog, Prif Weinidog yr Alban, arweinydd yr wrthblaid, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, llefarydd y blaid Lafur ar Brexit, Syr Keir Starmer, Cadeirydd Pwyllgor Brexit Tŷ'r Cyffredin a llawer o rai eraill. Rwyf wedi bod i is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU ynglŷn â pharatoi ar gyfer Brexit, a gynhaliwyd yn Llundain, a byddaf yn mynd i Lundain drachefn i wneud hynny yfory. Rwy'n ddiolchgar i arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma am neilltuo amser i gwrdd â mi ar delerau lle gallwn i rannu gwybodaeth o'r cyfarfodydd hynny gydag ef a cheisio ei farn yntau hefyd.
Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar yr agenda hanfodol hon. Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi bod i ddau gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop ac ar y negodiadau Ewropeaidd. Mae wedi bod yng Nghaeredin i fforwm gweinidogol ar negodiadau'r UE, ac mae wedi bod yn Llundain yn is-bwyllgor Cabinet y DU ynglŷn â pharatoadau Brexit. Ddydd Gwener diwethaf, cynhaliodd y Gweinidog cyllid gyfarfod pedair ochrog y Gweinidogion cyllid, fel y clywsoch chi, yma yng Nghaerdydd. Bu Eluned Morgan mewn cyfarfod pedair ochrog Gweinidogol ar fasnach ryngwladol yn Llundain ddoe, a bu Lesley Griffiths yn cymryd rhan mewn cyfarfod pedair ochrog Gweinidogion yr amgylchedd ddoe. Yma yn y Cynulliad, mae Gweinidogion wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a phwyllgorau penodol eraill i gyflwyno adroddiadau am ein camau gweithredu, a bu'r adroddiadau hynny yn destun craffu. Y tu hwnt i'r Cynulliad, rydym ni'n dal mewn cysylltiad agos â'r amrywiaeth ehangaf o bartneriaid yma yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, roedd Ken Skates yn cadeirio cyfarfod Cyngor Datblygu'r Economi i drafod y paratoadau ar gyfer Brexit, a heddiw, mae'r Gweinidog iechyd wedi cadeirio cyfarfod o'r grŵp rhanddeiliaid iechyd Ewropeaidd.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i helpu i baratoi a lliniaru effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol, a gyhoeddwyd yn gynharach y bore yma, yn cyfeirio at swyddogaeth flaenllaw Llywodraeth Cymru o ran nodi a rheoli risgiau cenedlaethol a strategol, gan weithio gydag eraill yng Nghymru a thu hwnt i wneud hynny. Ond y gwir plaen o hyd, Llywydd, yw bod gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn peri risg na ellir mo'i liniaru, ond y gellir ei osgoi. Rhaid i Brif Weinidog y DU newid cyfeiriad cyn iddi fynd yn rhy hwyr i hynny ddigwydd.
A gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma? Wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol bod ymgysylltu rheolaidd a chynhyrchiol yn digwydd yn y Senedd hon i helpu paratoi Cymru ar gyfer y sefyllfa, gobeithio, annhebygol y byddwn ni'n gadael yr UE heb gytundeb. Felly, mae hi'n hanfodol bwysig, fel yr wyf wedi dweud o'r blaen, bod arweinwyr Cymru yn rhoi eu gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu a throi pob carreg o ran paratoi Cymru ar gyfer bywyd ar ôl 29 Mawrth, a dyna pam y derbyniais eich gwahoddiad i gyfarfod i drafod goblygiadau Brexit rai wythnosau yn ôl.
Nawr, yn eich datganiad heddiw, Prif Weinidog, rydych chi'n beirniadu aelodau digyfaddawd yn y Blaid Geidwadol. Wel, fyddwch chi ddim yn synnu nad wyf i am gymryd unrhyw wersi gennych chi a'ch plaid ynglŷn ag aelodau digyfaddawd ac anghytundebau, o gofio y gwelsom ni ddoe diwethaf grŵp annibynnol newydd yn cael ei ffurfio gan saith AS Llafur a oedd wedi eu dadrithio, na allen nhw wasanaethu o dan Jeremy Corbyn. Ni allen nhw aros mewn plaid gyda'r fath ansicrwydd ynglŷn â safbwynt y Blaid Lafur ar Brexit, ac, yn wir, ynglŷn â chymaint o faterion eraill. A phrin fod hyn yn dangos plaid unedig. Nawr, hoffwn ailddatgan yr ymrwymiad—[Torri ar draws.] Nawr, hoffwn ailddatgan yr ymrwymiad a wnaed gan Brif Weinidog y DU ynghylch parhau i weithio'n galed gyda phob plaid i geisio sicrhau cytundeb, fel y gallwn ni adael yr UE gyda chytundeb a fydd yn gweithio i bawb. Ac rwyf yn awr yn falch, o'r diwedd, bod arweinydd y Blaid Lafur wedi cyfarfod â Phrif Weinidog y DU ac yn ymgysylltu yn y broses hon.
Nawr, rwy'n gwybod yr hoffech chi weld sefyllfa o ymadael heb gytundeb yn cael ei diystyru, Prif Weinidog. Fel yr wyf i wedi dweud wrthych chi o'r blaen, rwyf hefyd yn awyddus i adael yr UE gyda chytundeb, ond yr unig ffordd y gallwch chi sicrhau cytundeb yw annog eich cydweithwyr i gefnogi cytundeb. Felly, a wnewch chi gadarnhau heddiw, os bydd y Prif Weinidog yn llwyddiannus yn gofyn am newidiadau i'r cytundeb presennol, y byddwch chi felly yn annog eich cyd-Aelodau yn San Steffan i geisio dangos eu cefnogaeth i'r cytundeb hwnnw, er mwyn sicrhau nad ydym ni'n gadael yr UE heb gytundeb?
Wrth gwrs, rwy'n bryderus iawn o glywed fod busnesau yn pryderu am ansicrwydd Brexit. Yn naturiol, fel chi, Prif Weinidog, rwyf wedi fy nigalonni'n arw o glywed y bydd Honda yn cau ei ffatri yn Swindon, ac effaith enfawr hynny ar gyflenwyr o Gymru. Fodd bynnag, mae Honda wedi dweud bod y penderfyniad oherwydd newidiadau byd-eang yn y diwydiant ceir, felly mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn, iawn, pan fyddwn ni'n defnyddio enghreifftiau, yr adroddir yn gywir am benderfyniadau cwmnïau. Nawr, mae pob busnes yr wyf i'n siarad â nhw eisiau cytundeb fel y gallan nhw gynllunio ar gyfer y dyfodol, ac mae gennym ni ddyletswydd i fusnesau i gydweithio a sicrhau cytundeb. Nawr, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol fod Prif Weinidog y DU wedi negodi cytundeb arbennig gyda'r UE sydd yn cynnwys cyfnod gweithredu 21 mis, lle byddai'r holl reolau masnachu yn parhau mewn grym. Byddai hyn yn rhoi eglurder i fusnesau, ac mae angen i hyn ddigwydd.
Rwy'n gwybod y byddwch chi'n cyfarfod â Phrif Weinidog y DU eto yfory i gynnal trafodaethau pellach. Felly, a allwch chi ein sicrhau ni y byddwch chi'n cynrychioli busnesau yn briodol ac yn gywir, gan fod llawer o fusnesau wedi bod yn gyson gefnogol o gytundeb presennol Prif Weinidog y DU?
Nawr, rwy'n dal yn bryderus ei bod hi'n ymddangos na wnaed fawr ddim cynnydd ers i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyhoeddi ei adroddiad ynghylch paratoi ar gyfer Brexit, flwyddyn yn ôl. Cafwyd arweiniad clir gan y pwyllgor yn ei ganfyddiadau fod angen i Lywodraeth Cymru gyfathrebu'n well gyda sefydliadau unigol, drwy roi mwy o anogaeth i gyrff cynrychioliadol rannu gwybodaeth gyda'r holl sefydliadau cysylltiedig. Ac mae'n eithriadol o bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael mwy o wybodaeth i baratoi'n effeithiol ar gyfer Brexit, a, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud wrthyf i'r tro diwethaf imi eich holi am hyn bod llawer o waith wedi'i wneud. Fodd bynnag, mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â Brexit, y cyfeirir ato yn y datganiad heddiw, yn cadarnhau mai dim ond lleiafrif o gynghorau sydd â chynlluniau clir i ymdrin â'r peryglon posib a nodwyd ganddynt. Yn yr adroddiad hwn, mynegwyd pryderon mewn gwirionedd ynghylch diffyg capasiti mewn gwasanaethau cyhoeddus i reoli Brexit, sydd hefyd yn cael sgil-effaith sylweddol ar feysydd gwasanaeth eraill. Yn yr amgylchiadau hynny, sut ydych chi fel Llywodraeth yn ymateb i'r pryderon penodol hyn, a pha fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hyn, wrth gamu i'r dyfodol?
Ac felly, i gloi, Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Mae amser, wrth gwrs, yn y fantol bellach, ac felly a gaf i ailadrodd unwaith eto bod fy nghydweithwyr a minnau wedi ymrwymo i weithio, lle gallwn ni, â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru?
Llywydd, diolch yn fawr i'r Aelod am y sylwadau yna, ac am y cwestiynau.
Y rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu cyflwyno'r datganiad hwn heddiw oedd nad oedden ni eisiau i'r Cynulliad beidio â chael y cyfle i drafod y materion hanfodol bwysig hyn cyn y toriad. Ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol am yr angen i wneud yn siŵr bod ymgysylltu'n llawn yn digwydd yma yn y Senedd hon. Rwy'n anghytuno â'r Aelod ar nifer o bwyntiau, ac fe wnaf i ymdrin â'r rhai hynny yn fyr, cyn mynd ymlaen i ymdrin â rhai o'r pethau lle rwy'n credu ein bod ni'n gytûn yn eu cylch.
Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod yr amser wedi hen fynd pan fyddai ystyried y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb o unrhyw ddefnydd i Brif Weinidog y DU yn ei negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Efallai—roeddwn yn amheus o'r peth bryd hynny, ond o leiaf byddwn wedi bod yn barod i dderbyn y posibilrwydd damcaniaethol cynnar y byddai ystyried hynny efallai wedi bod yn ddefnyddiol. Ond, wrth i'r wythnosau dreiglo heibio, mae'r syniad bod hynny'n rhoi unrhyw fantais o gwbl i Brif Weinidog y DU yn ei thrafodaethau mewn mannau eraill wedi hen chwythu ei blwc. Yn hytrach, mae bellach yn rhwystr i gael y math o gytundeb yr ydym ni'n dibynnu ar ein partneriaid yn Ewrop i ddod ynghyd â'n helpu i gytuno arno. Byddai o gymorth i Brif Weinidog y DU i sicrhau'r mwyafrif sydd ei angen arni ar lawr Tŷ'r Cyffredin pe bai hi ond yn cael gwared â'r posibilrwydd hwnnw. Ac fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid gyfarfod â Phrif Weinidog y DU oherwydd bod Tŷ'r Cyffredin wedi pasio cynnig yn diystyru 'dim cytundeb', ac roedd wedi dweud wrthi erioed mai dyna oedd un o'r amodau y byddai angen eu bodloni cyn iddo gyfarfod â hi. Pan bleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid y cynnig hwnnw, cytunodd i gyfarfod ar unwaith, ac roedd y math o drefniadau ar gyfer Brexit a nodwyd yn ei lythyr, fel y dywedais yn gynharach, yn rhai yr oedd croeso cyffredinol iddyn nhw yn yr Undeb Ewropeaidd o ran ffurfio sail ar gyfer y math o gytundeb a allai ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin ac y byddid yn gallu ei drafod â nhw.
Nawr, Llywydd, nid wyf yn amau am eiliad ddiffuantrwydd arweinydd yr wrthblaid pan fo'n mynegi ei bryderon am ganlyniadau economaidd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud sy'n effeithio ar fywydau pobl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu nad oedd gan Brexit unrhyw ran ym mhenderfyniad Honda. Rwy'n cytuno fod hwnnw'n benderfyniad cefndirol yn hytrach nag un uniongyrchol, a phenderfyniadau uniongyrchol yw'r rhai y mae'r cwmni wedi cyfeirio atyn nhw mewn cysylltiad â newidiadau rhyngwladol yn y diwydiant modurol. Ond, pan es i gyfarfod â Ford gyda Ken Skates yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedwyd wrthym ni oedd nad yw'r heriau sy'n eu hwynebu wedi eu hachosi gan Brexit yn bennaf, ond bod Brexit yn eu dwysáu. Mae Brexit yno yn y cefndir ac yn gwneud bywyd i'r holl gynhyrchwyr mawr hyn yn fwy anodd nag y byddai fel arall. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi cytuno i estyniad, i gyfnod pontio, os gellir sicrhau ei chytundeb, oherwydd buom ni'n dadlau am hynny o'r cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gennym ni gydag aelodau o Lywodraeth y DU ar ôl refferendwm mis Mehefin 2016. A byddaf yn sicr yn cyflwyno barn busnesau Cymru. Mae ymysg y pethau mwyaf grymus y gallaf eu gwneud mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU: i drosglwyddo iddyn nhw'r farn y mae busnesau Cymru wedi ei throsglwyddo'n uniongyrchol i ni.
O ran y cwestiynau terfynol a holodd yr Aelod sy'n deillio o adroddiad yr archwilydd cyffredinol, wel, bydd wedi gweld yr adroddiad sy'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati mewn modd cadarnhaol i ymgysylltu ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyngor partneriaeth. Fe gawsom ni gyfarfod arbennig ohono ynglŷn â Brexit ym mis Ionawr. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu ag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â nhw, Llywydd. Dyma nhw, o dan bwysau, fel y clywn ni o amgylch y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos, gydag Aelodau yma eisiau i fwy gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen, fel yr ydym ninnau hefyd, ac y gofynnir iddyn nhw yn awr gymryd arian oddi ar y gwasanaethau hynny i baratoi ar gyfer posibilrwydd y maen nhw'n gobeithio'n fawr na fydd yn digwydd, ac mae hynny'n sefyllfa annheg i unrhyw arweinydd awdurdod lleol fod ynddi. Serch hynny, rydym ni'n parhau i weithio gyda nhw, gan ddarparu cyllid iddyn nhw hefyd, er mwyn eu cynorthwyo yn y gwaith y bydd angen iddyn nhw ei wneud petai Brexit heb gytundeb mewn gwirionedd yn digwydd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am gael gweld ei ddatganiad ymlaen llaw. Rydych chi'n nodi yn y datganiad y cafodd y cynigion a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' eu hadlewyrchu yn llythyr Jeremy Corbyn i Theresa May yr wythnos diwethaf. Ond nid yw hynny'n hollol wir, nac ydi? Rwy'n dyfynnu o 'Diogelu Dyfodol Cymru':
'Mae Undeb Tollau’r UE yn cynnig manteision i fusnesau Cymru.... Rydym o’r farn ar hyn o bryd mai parhau i fod yn aelod o Undeb Tollau’r UE, gan gynnwys cynhyrchion sylfaenol amaethyddiaeth a physgodfeydd, yw’r sefyllfa orau i fusnesau Cymru a’r DU.'
Yr hyn y mae Jeremy Corbyn yn galw amdano yw undeb tollau parhaol a chynhwysfawr ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd a fyddai'n cynnwys alinio gyda chod tollau'r undeb, tariff allanol cyffredin a chytundeb ynglŷn â pholisi masnachol sy'n cynnwys hawl i'r DU leisio ei barn ar gytundebau masnach yr UE yn y dyfodol. Nawr, nid dyna yw undeb tollau'r UE fel y deallwn ni hynny, yn sicr, ac, yn wir, mae'r cynnig hwnnw'n amhosib ar hyn o bryd yn gyfreithiol o dan gyfraith cytuniad yr UE. Felly, a fyddai'n derbyn—? O ran y farchnad sengl hefyd, roedd y cytundeb y buom yn ei drafod rhwng ein dwy blaid—. Roedd yn well gennym ni aelodaeth, roedd yn well gennych chithau gymryd rhan, ond, yn y bôn, roedd ynglŷn â pharhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl, ond dim ond y prynhawn yma dywedodd Jeremy Corbyn, pan holwyd ef yn benodol am hynny, ei fod yn gwrthod y syniad hwnnw ac mai'r hyn y mae yntau ei eisiau yw cytundeb masnach di-dariff. Felly, a yw o leiaf yn derbyn mewn gwirionedd nad yw'r hyn y mae Jeremy Corbyn yn ei hyrwyddo yr un peth â'r hyn y gwnaethom ni ei drafod rhwng ein dwy blaid?
O ran y trefniant wrth gefn, i mi mae'n parhau i fod yn un o'r elfennau mwy rhyfedd o safbwynt meinciau blaen y Blaid Lafur yn San Steffan eu bod yn parhau i fynegi eu pryderon am y trefniant wrth gefn, er gwaethaf sylwadau gwahanol y mae cynrychiolwyr y Blaid Lafur wedi eu gwneud yn y fan yma. Mae Ysgrifennydd yr wrthblaid ar Brexit yn dal i ddweud bod anawsterau gyda hynny ac mae'n adleisio'r hyn y mae'r DUP a rhai pobl ar gyrion eithaf y Blaid Geidwadol yn ei ddweud.
Yn olaf, i ganolbwyntio ar y mater creiddiol mewn gwirionedd, 38 o ddiwrnodau nes y byddwn ni'n ymadael yn ddisymwth, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, rydym ni'n glir nad oes ond un ffordd ymarferol yn bosib bellach o osgoi hyn sef pleidlais y bobl. Roeddwn yn mynd i'ch cystwyo mewn gwirionedd am ei hepgor yn llwyr o'ch datganiad. Ail-ddarllenais ef. Nid oedd yn y datganiad ysgrifenedig, nac oedd? Cafodd ei ychwanegu mewn ymateb i'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. Felly, mae'n wir, nid ydyn nhw'n wastraff llwyr ar amser. Rydych chi bron fel Jeremy Corbyn o chwith. Roedd ganddo yntau gyfeiriad at bleidlais y bobl yn y drafft cyntaf o'r llythyr ac fe gafodd hynny ei ddileu. Doeddech chi ddim yn cyfeirio at bleidlais y bobl yn eich drafft ysgrifenedig ond rhoesoch ef i mewn. Ond rwy'n llawenhau am hynny. Roeddech yn rhwyfo'n ôl, ac, yn sydyn, cam bach i'r cyfeiriad cywir.
Ond, wyddoch chi, pryd ydym ni'n mynd i gael cynnydd? Rydych chi'n siarad am bwysigrwydd 'dim cytundeb', ond mae dim cynnydd o leiaf mor niweidiol o ran y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Felly, pryd mewn difrif gawn ni ddatganiad diamwys gennych chi, Prif Weinidog, o blaid galw am bleidlais y bobl nawr?
Dywedodd Jeremy Corbyn mewn gwirionedd y prynhawn yma ei fod yn cefnogi penderfyniad poblogaidd ar ddiwedd y broses. Does gen i ddim syniad beth yw ystyr hynny. Efallai y gallwch chi egluro ymhellach. A yw'n golygu refferendwm terfynol ar ddiwedd y cyfnod pontio—posibilrwydd sydd wedi ei gyflwyno o'r blaen gan Mick Antoniw? A yw'n golygu bod mainc flaen Llafur yn mynd i gefnogi gwelliant Kyle-Wilson? Yn ôl pob golwg, mae John McDonnell yn dweud eu bod yn mynd i wneud penderfyniad yr wythnos hon ynglŷn â hynny, o ran refferendwm cadarnhau. Wnaethoch chi drafod hynny yn y Cabinet y bore yma? Ydych chi'n gallu dweud beth yw'r sefyllfa?
Fe wnaethoch chi gyfeirio, yn olaf, at eich cyfarfod a gawsoch chi ag arweinydd yr wrthblaid. Wel, dyma gynnig diffuant: pam na wnawn ni ddim cydgyfarfod i ddechrau paratoadau—y paratoadau diymdroi yr ydym ni wedi galw amdanyn nhw—ar gyfer pleidlais y bobl? Beth am i chi a minnau gyfarfod i ddechrau'r paratoadau, nid yn unig o ran galw am y refferendwm hwnnw, ond i'w chynnal a'i hennill yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwyf bob amser yn ceisio bod yn ofalus o'r hyn yr wyf yn ei ddweud ar lawr y Cynulliad, a'r hyn a ddywedais oedd yr adlewyrchwyd y ddogfen a luniwyd rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn y fan yma yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd yr wrthblaid. Ni ddywedais y cafodd ei ailadrodd. Dywedais y cafodd ei adlewyrchu. A dewisais y gair hwnnw yn fwriadol, oherwydd fy mod yn credu—[torri ar draws.] Na, rwy'n deall y byddai'n well gan Aelodau inni beidio â bod yn fanwl-gywir yn y ffordd yr ydym ni'n siarad am bethau, ond pan ddefnyddiais y gair 'adlewyrchu', defnyddiais hynny oherwydd fy mod yn credu y caiff prif fyrdwn yr hyn a drafodwyd gennym ni yma ei adlewyrchu yn y llythyr hwnnw. Nid dyblygiad mohono; ac nid yw'n ymdrin â phob manylyn, ond fe wnaethom ni ddweud yn y fan yma bod aelodaeth o undeb tollau yn hanfodol i fusnesau yng Nghymru, ac mae undeb tollau wedi ei gadarnhau yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd yr wrthblaid. Rydym ni wedi dweud bod mynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yn bwysig. Rwy'n credu y caiff hynny ei adlewyrchu yn y llythyr a anfonwyd gan arweinydd yr wrthblaid hefyd.
Felly, wyddoch chi, rwy'n credu ei bod hi'n well, pan fyddwn ni'n gweld pethau'n symud i'r cyfeiriad yr hoffem ni weld pethau'n symud iddo, ein bod yn croesawu'r pethau hynny ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo yn y broses honno, yn hytrach na, fel y credaf y gwelwn ni weithiau, rhyw fath o ddiddordeb dadansoddol ysol mewn ceisio canfod bylchau mân rhwng yr hyn a ddywedwyd mewn un datganiad ac un arall, beth yw cynnwys un llythyr a dogfen. Nid yw o unrhyw ddiddordeb i unrhyw un y tu allan i'r Siambr hon, credwch fi. Ni fyddai neb o gwbl yn ymddiddori yn y pwyntiau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru i mi'r prynhawn yma. Gwell o lawer fyddai inni geisio gwneud yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ceisio'i wneud, sef cytuno prif fyrdwn y pethau yr ydym ni'n credu eu bod yn bwysig ac wedyn ceisio dwyn y maen i'r wal gyda'n gilydd. Ac mae hynny'n ymdrech yr wyf yn sicr yn barod i barhau i'w gwneud, ac rwyf yn barod i wneud hynny gyda phobl pryd bynnag, yn y Siambr hon, mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn sicrhau canlyniad a fyddai'n briodol i Gymru.
Rwyf bob amser yn hapus i drafod materion Brexit yn y Siambr hon, ond byddai wedi bod yn ddigon hawdd i'r Prif Weinidog ddod yma heddiw a gwneud datganiad llawer byrrach na'r un a wnaeth. Gallai fod wedi dweud, 'Ni fu unrhyw ddatblygiadau yn yr ychydig fisoedd diwethaf', ac mae hynny oherwydd fy mod yn cytuno ag ef, nad ydym ni gam yn agosach at ddatrysiad, ac mae hynny oherwydd nad yw Prif Weinidog y DU yn gofyn y cwestiynau cywir. Ac o'r dechrau, roedd arni eisiau llunio rhyw gybolfa o gytundeb sydd yn ei hanfod yn ein cadw yn yr UE er ei fod mewn enw yn edrych fel petaem ni wedi ei adael. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd yn sicr o fethu, oherwydd, yn amlwg, nid yw'r UE byth yn mynd i dderbyn y math hwnnw o drefniant. Iddyn nhw, mae'n rhaid i chi naill ai fod i mewn neu allan. Felly, rydym ni wedi gwastraffu'r ddwy flynedd a hanner diwethaf, ac fe allwn ni i gyd feirniadu'r Llywodraeth am yr ansicrwydd, neu'r ansicrwydd ychwanegol, a achosodd hyn, ac mae'n feirniadaeth haeddiannol iawn nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud paratoadau digonol, neu yn wir, unrhyw baratoadau cyn belled ag y gallwn ni eu gweld sydd o unrhyw sylwedd, ar gyfer ymadael heb gytundeb. Ac mae hynny, rwy'n credu, yn un o'r problemau mawr y mae'n rhaid inni ymdrin â nhw.
Nid yw'r iaith yn y datganiad yn helpu, wrth gwrs— taerineb penboeth Brexitwyr digyfaddawd fod dim cytundeb yn ganlyniad derbyniol.
Wrth gwrs, dyna ichi daerineb penboeth arhoswyr digyfaddawd y dylem ni wneud popeth posib i danseilio canlyniad y refferendwm. Nid yw'r math hwnnw o iaith mewn gwirionedd yn fodd inni gyflawni unrhyw beth, ond y rheswm pam fod gennym ni'r taerineb penboeth hyn ar ddwy ochr y ddadl yw nad oes neb yn ymddiried ym Mhrif Weinidog y DU. Hanner y ddadl yw bod arnyn nhw ofn ei bod hi'n mynd i'n tynnu ni allan o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, ac mae'r hanner arall yn ofni y cawn ni mewn gwirionedd ein cadw yn yr UE. Iaith fwriadol aneglur a gofalus Prif Weinidog y DU sydd wedi esgor ar y canlyniad hwn, ac a yw'r elfen fwyaf gwenwynig yn y cymysgedd hwn. Felly, i'r graddau hynny, gallaf dderbyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog heddiw.
Ond nid yw mynediad parhaus i 40 cytundeb masnach yn mynd i fod yn hollbwysig i'n dyfodol fel cenedl. Beth yw'r cytundebau masnach hyn y mae'r UE wedi llwyddo i'w cyflawni yn ei hanes o ryw hanner canrif? San Marino, Andorra, Beilïaeth Guernsey, Ynys Manaw, Beilïaeth Jersey, Monaco, a bellach mae gennym ni Serbia, Montenegro ac Albania, Moldofa, Georgia. Wel, mae'r rhain i gyd gytundebau cwbl deilwng y gellid eu gwneud, ond ar wahân i Mecsico, y daeth yr UE i gytundeb â hi rai blynyddoedd yn ôl, ac yn fwyaf diweddar Japan dim ond eleni, Canada ac ati, yna mae'r UE—[Torri ar draws.] Bydd hi'n llawer haws i ni nag i'r UE, oherwydd bod yr UE yn gynllwyn diffyndollol, lle nad ydym ni.
Ac mae cytundebau masnach rydd mewn gwirionedd yn saeth wedi ei hanelu'n syth at galon yr UE, fel mae penderfyniad cwmnïau ceir Japan wedi profi yn ddiweddar, oherwydd mai un o'r elfennau ym mhenderfyniad Honda yn ymwneud â chytundeb masnach rydd gyda'r UE, yw fe allan nhw bellach gael mynediad di-dariff i farchnadoedd yr Undeb Ewropeaidd, ond mewn gwirionedd dydyn nhw ddim angen cynhyrchu yn yr UE. Felly, mae hynny wedi cau eu cegau nhw ychydig draw yn y fan yna, onid yw e? Felly, ydynt, mae cytundebau masnach rydd yn rhan bwysig o ddyfodol Prydain y tu allan i'r UE, a dyna pam mae aelodaeth o'r undeb tollau yn anghydnaws â hynny.
Nawr, o ddatganiad Prif Weinidog Cymru heddiw, byddech yn credu bod economi cyfan Prydain, i ddefnyddio ei ymadrodd, yn mynd dros y dibyn. Ond mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol am y farchnad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn dangos yn chwarter diwethaf 2018 y cafodd 167,000 yn fwy o bobl eu cyflogi; mae hynny'n 440,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yn y Deyrnas Unedig yn ystod blwyddyn galendr 2018. Mae'r gyfradd gyflogaeth felly'r uchaf erioed—60,000 yn llai o bobl mewn contractau dim oriau, y diweithdra isaf ers 1974—roedd 100,000 yn llai yn ddiwaith yn 2018. Mae cyflogau wedi cynyddu 3.4 y cant, 1.3 y cant mewn termau real, ac eto pan gyhoeddwyd canlyniad y refferendwm ac, yn wir, cyn hynny, y rhagolygon oedd y byddai'r economi gyfan yn mynd i mewn i bwll du. A rhagfynegiadau'r Trysorlys ar y pryd oedd y byddai diweithdra ym Mhrydain 500,000 i 800,000 yn uwch nag yr oedd ym mis Mai 2018. Dyna ragolygon y Trysorlys ichi, sydd yn ddim mwy na phropaganda gwleidyddol gan Ganghellor y Trysorlys sydd ar dân dros aros.
Datblygiad diddorol arall yn ystod y dyddiau diwethaf yw bod yr Eidal bellach yn ceisio cytundeb Brexit ar wahân gyda Phrydain, oherwydd eu bod nhw'n cydnabod pwysigrwydd Brexit heb gytundeb o'r UE iddyn nhw. Mae FoodDrinkEurope wedi dweud
Bydd ymadawiad y DU o'r UE heb gytundeb yn gyfystyr â sefyllfa lle na fydd neb yn elwa o ran y gadwyn fwyd-amaeth gyfan.
Bydd yr effaith yn uniongyrchol ac yn ddidrugaredd. Ceir dwy ochr i'r ddadl hon, wrth gwrs—yr UE a'r DU. Mae'r DU wedi dweud o'r cychwyn cyntaf ac, yn wir, dywedodd Mr Tusk ar y dechrau fod arno eisiau cynnig cytundeb masnach rydd i'r DU. Mae Prif Weinidog y DU wedi gwrthod manteisio ar y cynnig hwnnw, ac mae anhyblygrwydd Juncker a Barnier ar y llaw arall wedi cadw'r ateb hwn o'r trafodaethau negodi. Dyna'r ffordd ymlaen i Brydain.
Mae byd y tu allan i'r UE. Dim ond 15 y cant o economi'r byd yw'r UE o'i gymharu â 30 y cant 30 mlynedd yn ôl, a bydd yn hanner hynny eto ymhen 30 mlynedd. Mae'r twf yn y byd yn digwydd yn y rhannau hynny o'r byd y mae cwmnïau ceir yn awr yn adleoli iddyn nhw, ac nid yn unig o Brydain, oherwydd mae Honda yn cau ei linell gynhyrchu Honda Civic yn Nhwrci, ac efallai mewn gwirionedd yn cau ei holl weithrediadau yn y fan yna. Ac mae Twrci yn yr undeb tollau. Mae Donald Trump yn sôn am osod tariff o 25 y cant ar allforwyr ceir o'r UE i'r Unol Daleithiau oherwydd ein bod yn mynnu cael tariff o 10 y cant ar geir Americanaidd, tra bo ganddyn nhw dariff o 2.5 y cant yn unig yn gyfnewid. Bydd diwydiant ceir yr Almaen yn sicr yn gweld newid byd os bydd hynny'n digwydd, a gan mai Prydain sy'n prynu un o bob saith cerbyd a gaiff ei wneud yn yr Almaen, bydd Brexit heb gytundeb hefyd yn anhawster difrifol iddyn nhw gan fod economi'r Almaen wedi bod yn gwanhau ers dau chwarter—rhywbeth nad ydyn nhw wedi ei weld ers blynyddoedd lawer—tra bo Prydain yn parhau i gynnig cyfleoedd busnes i ddiwydiannau twf y dyfodol. Sefydlwyd cronfa dechnoleg £400 miliwn yr wythnos hon yn Llundain gan fuddsoddwr gwladwriaethol Abu Dhabi, cwmni buddsoddi Mubadala a Softbank, gan mai'r DU sy'n arwain y byd o ran arloesedd technegol. Rhain yw diwydiannau'r dyfodol y dylem ni fod yn canolbwyntio arnyn nhw. Mae'r rhain yn gyfleoedd sy'n agored i ni ar ôl Brexit. Nid wyf eisiau Brexit heb gytundeb—rwyf eisiau cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, dyna fu fy nymuniad erioed—ond mae'r anallu i siarad yn blaen am y materion hyn yn rhywbeth fydd yn broblem fawr i ni.
Y broblem fawr arall i'r diwydiant ceir, wrth gwrs, yw disel. A pholisi'r UE a'r Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar allyriadau yw un o'r problemau mwyaf i weithgynhyrchwyr ceir Ewropeaidd. Dyna un o'r rhesymau mawr pam mae Nissan wedi penderfynu rhoi'r gorau i gynhyrchu yn Sunderland—oherwydd ni fydd neb eisiau car disel cyn bo hir, ac eto'r rhain yw'r llinellau cynhyrchu presennol.
Felly, byddai'n dda gennyf pe gallai'r Prif Weinidog fod yn fwy cytbwys yn ei ddatganiadau. Bydd, bydd problemau pontio wrth adael yr UE. Hyd yn oed yn fwy felly heb gytundeb—ac mae'r bai am hynny, rwy'n credu, yn bennaf ar 10 Stryd Downing. Ond mae cyfleoedd hefyd, ac nid bychanu economi Prydain yn barhaus yw'r ffordd ymlaen, ac yn sicr nid y ffordd ymlaen os oes gennych chi ddiddordeb yn lles pobl Cymru.
Dywedodd yr Aelod fod strategaeth Prif Weinidog y DU yn un o aneglurder bwriadol. O na allwn i gredu ei fod wedi'i gynllunio i fod felly. Rwy'n credu bod gennym ni'r aneglurder heb y bwriad, mewn gwirionedd—y cwbl sydd gennym ni yw symudiad rhwng carfanau gwahanol wrth iddi gael ei cholbio, ddydd ar ôl dydd, gan yr holltau o fewn ei phlaid ei hun.
Darllenodd yr Aelod enwau rhai o'r 40 o wledydd y mae gennym ni gytundebau â nhw. Dyma'r union gytundebau yr oedd yntau a'i debyg yn eu canmol wrthym yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm. Dyma ateb Tipp-Ex drwgenwog Dr Fox, os cofiwch chi, pan ddywedodd mai'r rhain fyddai'r cytundebau hawsaf yn hanes masnach. Y cyfan oedd ei angen oedd potel o Tipp-Ex i allu rhoi Tipp-Ex dros y blaenlythrennau 'EU' ac ysgrifennu'r blaenlythrennau 'UK' yn eu lle. Beth mae wedi llwyddo i'w gyflawni hyd yn hyn? Wel, rydym ni wedi taro bargen â'r Swistir, felly mae ein cyflenwad o glociau cwcw yn ddiogel ar ôl Brexit, ac rydym ni wedi dod i gytundeb ag Ynysoedd Ffaro. Felly, bydd unrhyw un a hoffai siwmper wlanog i gadw'n gynnes yn oerfel Brexit yn gweld bod darpariaeth ar eu cyfer nhw hefyd.
Dywedodd yr Aelod fod cytundebau masnach rydd yn anghydnaws ag undeb tollau. Dywedodd hynny yn syth ar ôl iddo amlinellu'r cytundebau masnach rydd y mae'r UE wedi eu llunio yn ystod yr wythnosau diwethaf, er, fel y cofiaf i, eu bod yn dal i fod mewn undeb tollau. Dywedodd hefyd fod popeth yn economi'r DU yn mynd yn rhwydd, er gwaetha'r ffaith bod ffigurau Banc Lloegr yn awgrymu bod economi'r DU 2 y cant yn llai heddiw nag y byddai pe na baem ni wedi cael refferendwm, a bod pob teulu yng Nghymru £800 yn waeth eu byd o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw.
Mae'n fy nharo i, fel erioed, Llywydd, fel capten y Titanic. Rydym ni'n hwylio mor gyflym ag y gallwn tuag at y mynydd iâ, gan nodi y bydd rhai problemau ar adeg y gwrthdrawiad, ond y bydd yn ddrwg calon gan y mynydd iâ—y bydd yn ddrwg iawn gan yr Undeb Ewropeaidd am y niwed y mae hyn i gyd yn ei wneud iddo yntau. Rydym ni'n clywed y byddwn yn aelodau o Brydain Eofn, gwlad hud a lledrith y Brexitwyr, lle byddwn yn rhydd o'r cyfyngiadau sydd wedi peri i economi'r Undeb Ewropeaidd fod yn gymaint o lwyddiant ers 40 mlynedd, a byddwn yn gallu mentro ar ein pen ein hunain a thorri ein cwys ein hunain. Nid yw hynny'n cyfateb mewn unrhyw fodd â realiti economi fyd-eang integredig ac mae'n dyddio'n ôl i gyfuniad o amgylchiadau nad ydyn nhw'n berthnasol heddiw ac na fyddant yn sicr yn berthnasol os ydym ni'n ymadael yn ddisymwth â'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch i’r Prif Weinidog.