Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 19 Chwefror 2019.
Y rheswm pam y gwnaethom ni benderfynu cyflwyno'r datganiad hwn heddiw oedd nad oedden ni eisiau i'r Cynulliad beidio â chael y cyfle i drafod y materion hanfodol bwysig hyn cyn y toriad. Ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei sylwadau agoriadol am yr angen i wneud yn siŵr bod ymgysylltu'n llawn yn digwydd yma yn y Senedd hon. Rwy'n anghytuno â'r Aelod ar nifer o bwyntiau, ac fe wnaf i ymdrin â'r rhai hynny yn fyr, cyn mynd ymlaen i ymdrin â rhai o'r pethau lle rwy'n credu ein bod ni'n gytûn yn eu cylch.
Yn gyntaf oll, rwy'n credu bod yr amser wedi hen fynd pan fyddai ystyried y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb o unrhyw ddefnydd i Brif Weinidog y DU yn ei negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd. Efallai—roeddwn yn amheus o'r peth bryd hynny, ond o leiaf byddwn wedi bod yn barod i dderbyn y posibilrwydd damcaniaethol cynnar y byddai ystyried hynny efallai wedi bod yn ddefnyddiol. Ond, wrth i'r wythnosau dreiglo heibio, mae'r syniad bod hynny'n rhoi unrhyw fantais o gwbl i Brif Weinidog y DU yn ei thrafodaethau mewn mannau eraill wedi hen chwythu ei blwc. Yn hytrach, mae bellach yn rhwystr i gael y math o gytundeb yr ydym ni'n dibynnu ar ein partneriaid yn Ewrop i ddod ynghyd â'n helpu i gytuno arno. Byddai o gymorth i Brif Weinidog y DU i sicrhau'r mwyafrif sydd ei angen arni ar lawr Tŷ'r Cyffredin pe bai hi ond yn cael gwared â'r posibilrwydd hwnnw. Ac fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid gyfarfod â Phrif Weinidog y DU oherwydd bod Tŷ'r Cyffredin wedi pasio cynnig yn diystyru 'dim cytundeb', ac roedd wedi dweud wrthi erioed mai dyna oedd un o'r amodau y byddai angen eu bodloni cyn iddo gyfarfod â hi. Pan bleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid y cynnig hwnnw, cytunodd i gyfarfod ar unwaith, ac roedd y math o drefniadau ar gyfer Brexit a nodwyd yn ei lythyr, fel y dywedais yn gynharach, yn rhai yr oedd croeso cyffredinol iddyn nhw yn yr Undeb Ewropeaidd o ran ffurfio sail ar gyfer y math o gytundeb a allai ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin ac y byddid yn gallu ei drafod â nhw.
Nawr, Llywydd, nid wyf yn amau am eiliad ddiffuantrwydd arweinydd yr wrthblaid pan fo'n mynegi ei bryderon am ganlyniadau economaidd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud sy'n effeithio ar fywydau pobl yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu nad oedd gan Brexit unrhyw ran ym mhenderfyniad Honda. Rwy'n cytuno fod hwnnw'n benderfyniad cefndirol yn hytrach nag un uniongyrchol, a phenderfyniadau uniongyrchol yw'r rhai y mae'r cwmni wedi cyfeirio atyn nhw mewn cysylltiad â newidiadau rhyngwladol yn y diwydiant modurol. Ond, pan es i gyfarfod â Ford gyda Ken Skates yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedwyd wrthym ni oedd nad yw'r heriau sy'n eu hwynebu wedi eu hachosi gan Brexit yn bennaf, ond bod Brexit yn eu dwysáu. Mae Brexit yno yn y cefndir ac yn gwneud bywyd i'r holl gynhyrchwyr mawr hyn yn fwy anodd nag y byddai fel arall. Wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith bod Prif Weinidog y DU wedi cytuno i estyniad, i gyfnod pontio, os gellir sicrhau ei chytundeb, oherwydd buom ni'n dadlau am hynny o'r cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gennym ni gydag aelodau o Lywodraeth y DU ar ôl refferendwm mis Mehefin 2016. A byddaf yn sicr yn cyflwyno barn busnesau Cymru. Mae ymysg y pethau mwyaf grymus y gallaf eu gwneud mewn cyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU: i drosglwyddo iddyn nhw'r farn y mae busnesau Cymru wedi ei throsglwyddo'n uniongyrchol i ni.
O ran y cwestiynau terfynol a holodd yr Aelod sy'n deillio o adroddiad yr archwilydd cyffredinol, wel, bydd wedi gweld yr adroddiad sy'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati mewn modd cadarnhaol i ymgysylltu ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyngor partneriaeth. Fe gawsom ni gyfarfod arbennig ohono ynglŷn â Brexit ym mis Ionawr. Rydym ni'n parhau i ymgysylltu ag arweinwyr llywodraeth leol ac eraill. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â nhw, Llywydd. Dyma nhw, o dan bwysau, fel y clywn ni o amgylch y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos, gydag Aelodau yma eisiau i fwy gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen, fel yr ydym ninnau hefyd, ac y gofynnir iddyn nhw yn awr gymryd arian oddi ar y gwasanaethau hynny i baratoi ar gyfer posibilrwydd y maen nhw'n gobeithio'n fawr na fydd yn digwydd, ac mae hynny'n sefyllfa annheg i unrhyw arweinydd awdurdod lleol fod ynddi. Serch hynny, rydym ni'n parhau i weithio gyda nhw, gan ddarparu cyllid iddyn nhw hefyd, er mwyn eu cynorthwyo yn y gwaith y bydd angen iddyn nhw ei wneud petai Brexit heb gytundeb mewn gwirionedd yn digwydd.