Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 19 Chwefror 2019.
Dywedodd yr Aelod fod strategaeth Prif Weinidog y DU yn un o aneglurder bwriadol. O na allwn i gredu ei fod wedi'i gynllunio i fod felly. Rwy'n credu bod gennym ni'r aneglurder heb y bwriad, mewn gwirionedd—y cwbl sydd gennym ni yw symudiad rhwng carfanau gwahanol wrth iddi gael ei cholbio, ddydd ar ôl dydd, gan yr holltau o fewn ei phlaid ei hun.
Darllenodd yr Aelod enwau rhai o'r 40 o wledydd y mae gennym ni gytundebau â nhw. Dyma'r union gytundebau yr oedd yntau a'i debyg yn eu canmol wrthym yn y cyfnod yn arwain at y refferendwm. Dyma ateb Tipp-Ex drwgenwog Dr Fox, os cofiwch chi, pan ddywedodd mai'r rhain fyddai'r cytundebau hawsaf yn hanes masnach. Y cyfan oedd ei angen oedd potel o Tipp-Ex i allu rhoi Tipp-Ex dros y blaenlythrennau 'EU' ac ysgrifennu'r blaenlythrennau 'UK' yn eu lle. Beth mae wedi llwyddo i'w gyflawni hyd yn hyn? Wel, rydym ni wedi taro bargen â'r Swistir, felly mae ein cyflenwad o glociau cwcw yn ddiogel ar ôl Brexit, ac rydym ni wedi dod i gytundeb ag Ynysoedd Ffaro. Felly, bydd unrhyw un a hoffai siwmper wlanog i gadw'n gynnes yn oerfel Brexit yn gweld bod darpariaeth ar eu cyfer nhw hefyd.
Dywedodd yr Aelod fod cytundebau masnach rydd yn anghydnaws ag undeb tollau. Dywedodd hynny yn syth ar ôl iddo amlinellu'r cytundebau masnach rydd y mae'r UE wedi eu llunio yn ystod yr wythnosau diwethaf, er, fel y cofiaf i, eu bod yn dal i fod mewn undeb tollau. Dywedodd hefyd fod popeth yn economi'r DU yn mynd yn rhwydd, er gwaetha'r ffaith bod ffigurau Banc Lloegr yn awgrymu bod economi'r DU 2 y cant yn llai heddiw nag y byddai pe na baem ni wedi cael refferendwm, a bod pob teulu yng Nghymru £800 yn waeth eu byd o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw.
Mae'n fy nharo i, fel erioed, Llywydd, fel capten y Titanic. Rydym ni'n hwylio mor gyflym ag y gallwn tuag at y mynydd iâ, gan nodi y bydd rhai problemau ar adeg y gwrthdrawiad, ond y bydd yn ddrwg calon gan y mynydd iâ—y bydd yn ddrwg iawn gan yr Undeb Ewropeaidd am y niwed y mae hyn i gyd yn ei wneud iddo yntau. Rydym ni'n clywed y byddwn yn aelodau o Brydain Eofn, gwlad hud a lledrith y Brexitwyr, lle byddwn yn rhydd o'r cyfyngiadau sydd wedi peri i economi'r Undeb Ewropeaidd fod yn gymaint o lwyddiant ers 40 mlynedd, a byddwn yn gallu mentro ar ein pen ein hunain a thorri ein cwys ein hunain. Nid yw hynny'n cyfateb mewn unrhyw fodd â realiti economi fyd-eang integredig ac mae'n dyddio'n ôl i gyfuniad o amgylchiadau nad ydyn nhw'n berthnasol heddiw ac na fyddant yn sicr yn berthnasol os ydym ni'n ymadael yn ddisymwth â'r Undeb Ewropeaidd.