Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, gan nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Cenedlaethol o Dlodi Tanwydd, roedd National Energy Action Cymru, gyda chymorth SSE, yn cynnal ei gynhadledd tlodi tanwydd eleni dan yr enw 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen'. Dyma gyfle i Lywodraeth, Ofgem a phartneriaid allweddol yn cynrychioli'r sector ynni a'r trydydd sector ddod ynghyd i rannu'r llwyddiannau a nodi'r heriau, ond yn bwysicach i ystyried sut y gallwn weithio orau gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gefnogi pobl yn ein cymdeithas y caiff eu bywydau eu handwyo'n barhaus yn sgil byw ar aelwyd oer. Heddiw, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailddatgan ymrwymiad y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni ein tai, gan fod yn ddinasyddion byd-eang da drwy leihau ein hôl troed carbon a lleihau'r gyfran o adnoddau'r byd a fynnwn ar gyfer ein hanghenion ni.
Dylai pawb gael byw mewn cartref gweddus. Mae tai gweddus yn creu cymunedau gweddus y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw. Mae tai clyd a fforddiadwy yn atal afiechyd, maen nhw'n helpu ein plant i wneud yn dda yn yr ysgol ac yn sicrhau bod rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn teimlo'n fwy diogel. Dyma pam ei bod mor bwysig inni ganolbwyntio ar greu cartrefi gweddus a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ers ei lansio bron ddeng mlynedd yn ôl, mae'r rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynnwys y cynllun Nyth sy'n cael ei arwain gan y galw a'r cynllun Arbed sy'n seiliedig ar ardal, wedi rhoi cyngor ar effeithlonrwydd ynni i fwy na 112,000 o bobl ac wedi gwella mwy na 50,000 o gartrefi drwy sefydlu mesurau effeithlonrwydd ynni. Heb y cymorth hwn, amcangyfrifwn y byddai mwy na 80,000 o gartrefi wedi ei chael hi'n anodd iawn cadw'n gynnes y gaeaf hwn. Drwy ymestyn y rhaglen hon hyd 2021 bydd modd inni wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill yn ychwanegol.
Mae'r buddsoddiad o £248 miliwn a roddwyd drwy raglen Cartrefi Clyd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018 yn ychwanegol at y cymorth a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU drwy'r cynllun rhwymedigaeth cwmni ynni. Bellach, mae gan y cynllun rhwymedigaeth newydd hwn fwy o bwyslais ar bobl sy'n byw ar incwm is. Bydd hyn yn hwyluso'r cwmnïau ynni mawr i chwarae eu rhan i sicrhau mwy o gynhesrwydd fforddiadwy.
Mae'r buddsoddiad a wnaed i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus i weithredu safon ansawdd tai Cymru yn y sector tai cymdeithasol, yn cael effaith gadarnhaol. Mae canlyniad yr arolwg diweddaraf ar gyflwr tai Cymru yn dangos mai sgôr tystysgrif perfformiad ynni cyfartalog cartrefi yng Nghymru yn yr arolwg diweddaraf hwn yw band D, o'i gymharu â sgôr gyfartalog o fand E yn 2008. Ond er gwaethaf ein hymdrechion ni, mae nifer y bobl sy'n cael trafferth cadw eu cartrefi'n glud a diddos yn ystod y gaeaf yn parhau'n ystyfnig o uchel. Mae mwy nag un ym mhob pump o aelwydydd, yn anffodus, yn parhau i fyw mewn tlodi tanwydd.
Cynlluniwyd ein cynllun peilot ar gyfer cyflyrau iechyd, a gyflwynwyd yn 2017, i gefnogi ein hymdrechion i leihau cyfraddau afiechyd a marwolaethau cynamserol yn ystod y gaeaf, sy'n gwaethygu drwy fyw mewn cartref oer. Mae'r cynllun peilot yn ymestyn y cymhwyster i alluogi ein cynllun Nyth i gefnogi pobl sy'n byw ar incwm is, nad ydyn nhw'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm, ac sy'n byw gyda chyflwr iechyd anadlol cronig neu gyflwr tebyg. Rwyf wedi cytuno i ymestyn y cynllun peilot hwn am flwyddyn arall. Bydd hyn yn sicrhau y gall y bobl sydd â'r perygl mwyaf o ddioddef o gyflyrau anadlol a chyflyrau cysylltiedig barhau i dderbyn y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw a bydd hynny'n cyfrannu at ysgafnu pwysau'r gaeaf ar ein gwasanaethau iechyd.
Y gaeaf hwn, rwyf wedi cytuno hefyd i sicrhau bod cyllid ar gael i ddarparu cymorth ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn cartref oer gan na allant dalu'r ffi galw allan ar gyfer atgyweirio boeler gwres canolog sydd wedi torri. Dylai gefnogi pobl i allu trwsio'r system sy'n gwresogi eu cartref, yn arbennig mewn cartrefi sydd â phlant, pobl hŷn a phobl anabl, fod yn un o'r blaenoriaethau a rannwn ni.
Gan droi at y dyfodol, fy mwriad yw cyhoeddi ein cynllun newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng nghynhadledd ymwybyddiaeth tlodi tanwydd y flwyddyn nesaf, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr hydref. Bydd y cynllun newydd yn cynnwys amcanion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n uchelgeisiol. Eto i gyd, bydd yn rhaid inni fod yn ofalus y gellir gwireddu ein dyheadau yn y tymor byr, canolig a hir, a'u bod yn cyd-fynd yn amlwg â'n hagenda ehangach o ddatgarboneiddio. Ar y sail honno, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gyda'r sector ynni, ein rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, Llywodraeth y DU a'r rheoleiddiwr ynni, i sicrhau ein bod yn datblygu a chyflawni cynllun sy'n gwireddu ein huchelgeisiau cyffredin. Os ydym eisiau cyflawni ein dull egwyddorol ni o weithredu, bydd cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ac ar yr un pryd leihau allyriadau carbon o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru, yn gorfod bod wrth wraidd ein cynlluniau i'r dyfodol.