Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch ddechrau unwaith eto drwy gyfeirio at gynhadledd National Energy Action Cymru ddydd Iau diwethaf sef 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen', o flaen Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd ddydd Gwener ac roeddwn innau'n siarad hefyd yn y digwyddiad hwnnw yn ystod y prynhawn, ac yn eistedd ar banel holi wrth i ni symud ymlaen.
Nawr, fel y gwyddoch, yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, er ei fod sawl blwyddyn ar ei hôl hi bellach, mae 291,000 o aelwydydd yng Nghymru—23 y cant—mewn tlodi tanwydd. A wnewch chi ddweud wrthym pa bryd yr ydych yn disgwyl y cyhoeddir y ffigurau diweddaraf? Rydym ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn debygol o wneud hynny yn ystod y gwanwyn hwn.
Roedd monitor tlodi tanwydd National Energy Action 2017-18 yn cyfeirio at nod 2010 Llywodraeth Cymru o ddileu tlodi tanwydd erbyn Rhagfyr 2018, gan nodi nad oes camau gwirioneddol eglur wedi bod hyd yn hyn tuag at wneud ymrwymiad tlodi tanwydd newydd a all ysgogi camau gweithredu strategol ar leihau tlodi tanwydd yn lleol nac yn genedlaethol.
A bod consensws y dylid datblygu strategaeth tlodi tanwydd a chynllun gweithredu newydd, a ddylai gynnwys nodau uchelgeisiol i wella cartrefi hyd at safon isaf ofynnol, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.
Ond yn eich datganiad chi, fe wnaethoch chi gadarnhau eich bod yn bwriadu cyhoeddi cynllun newydd ar gyfer mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn y gynhadledd y flwyddyn nesaf, fwy na thebyg ymhen 12 mis arall, a'ch bod chi'n awyddus i weithio gyda'r sector. Sut ydych chi'n bwriadu gweithio gyda'r sector cyn yr ymgynghoriad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, i sicrhau y caiff hynny ei ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid? Oherwydd, fel y gwyddoch chi, mae modd cyflawni hynny mewn nifer o ffyrdd gwahanol, rhai yn fwy effeithiol nag eraill, er mwyn ysgogi cynllun strategol cenedlaethol gyda nodau uchelgeisiol.
Yn amlwg, gall hynny gynnwys pethau fel inswleiddio gwell, goleuadau a chyfarpar mwy clyfar, systemau gwresogi mwy clyfar, a phob un ohonyn nhw'n arbed arian i ddeiliaid tai. Ond hefyd, fel y dywedodd NEA Cymru rai misoedd yn ôl, er inni wybod bod aneffeithlonrwydd ynni yn ffactor sy'n cyfrannu at dlodi tanwydd, ni wnaiff hynnny ddatrys y broblem ar ei ben ei hun. Mae angen strategaeth newydd, sy'n amlinellu dull mwy cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, cyngor a gwasanaethau iechyd, yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol yn y gymdeithas.
Mae hynny'n cysylltu â'm cwestiwn blaenorol i, ond sut y byddwch chi'n sicrhau nad cynllun neu strategaeth sy'n canolbwyntio'n unig ar effeithlonrwydd ynni sydd yma, er bod hynny'n bwysig, ond ei fod yn canolbwyntio ar yr agenda cyfiawnder cymdeithasol ehangach hefyd?
Yn dilyn strategaeth 2010 Llywodraeth Cymru, nifer y marwolaethau ychwanegol yn ystod gaeaf 2011-12 yng Nghymru oedd 1,250. Fodd bynnag, mae data ONS a ryddhawyd fis Tachwedd diwethaf yn dangos bod nifer y marwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yng Nghymru wedi cyrraedd 3,400 yn 2017-18, gyda chynnydd yng Nghymru ac ym mhob rhanbarth yn Lloegr, ond yng Nghymru y cafwyd y mynegai rhanbarthol uchaf.
Yr hydref diwethaf, fe wnaethoch chi ddweud wrth y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni y byddech yn datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ac mae hyn yn adleisio'r alwad ym monitor tlodi tanwydd yr NEA ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun tywydd oer, yn debyg i'r cynllun yn Lloegr a gynhyrchir gan Public Health England. Roedd yn galw hefyd ar y cenhedloedd datganoledig i fabwysiadu canllaw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, a'r safon gyfatebol o ran afiechyd sy'n gysylltiedig ag oerfel a marwolaethau ychwanegol y gaeaf.
Sut ydych chi'n ymateb i'r galwadau arbennig hynny? Ers blynyddoedd lawer bellach maen nhw wedi bod yn galw am fabwysiadu canllaw NICE, nid yn unig un yr NEA, ond y gynghrair tlodi tanwydd yn ehangach yng Nghymru, a sut ydych chi'n ymateb i'w galwad yng nghyd-destun y gwaith a wneir gan Public Health England dros y ffin?
Yn ôl y monitor tlodi tanwydd, gallai Llywodraeth Cymru warchod aelwydydd agored i niwed gyda chronfa argyfwng ar gyfer gwresogi mewn argyfwng pan fo eu hiechyd yn y fantol. A ydych chi'n ystyried neu a fyddech chi'n ystyried cronfa argyfwng i ateb, unwaith eto, yr alwad sydd wedi ei gwneud ers blynyddoedd lawer? Ac maen nhw'n galw hefyd am fuddsoddiad i wella effeithlonrwydd ynni'r cyflenwad tai presennol yng Nghymru sydd angen ei ehangu ar fyrder. Gwyddom mai gan Gymru y mae'r gyfran uchaf o dai hŷn sy'n lleiaf addas i dderbyn mesurau effeithlonrwydd ynni modern. Felly, sut ydych chi'n ymateb i'r cynigion yn ein maniffesto diwethaf ar gyfer pecyn cymorth ôl-osod yn seiliedig ar ddull adeilad cyfan, a gymeradwywyd gan y Sustainable Traditional Building Alliance, i gydnabod y mater allweddol hwnnw?
Dau bwynt i orffen. Byddwch yn ymwybodol o gynllun gwres fforddiadwy sir y Fflint a lansiwyd yn 2013, a oedd yn cynnwys cronfa argyfwng ar gyfer pobl na allen nhw fforddio i wresogi eu cartrefi a'u bod angen cymorth ar unwaith. Ond y llynedd, collodd y partner trydydd sector allweddol, y North Wales Energy Advice Centre, a oedd yn ysgogydd i'r cynllun hwnnw mewn gwirionedd, brif ffynhonell ei gyllid. Ac fe wnaethon nhw ysgrifennu ataf i ddweud y dylai'r cynllun gwres fforddiadwy yn sir y Fflint fod yn brosiect blaenllaw i'w efelychu ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig fel dull fforddiadwy o roi cymorth gwirioneddol, ymarferol ac effeithiol i'r rhai sydd â'r angen mwyaf amdano. Ond yn ôl pob tebyg, bydd y prosiect hwn yn dod i ben nawr. Felly, unwaith eto, o ystyried y sylwadau cynharach am yr angen i weithio gyda rhanddeiliaid, sut allwn ni sicrhau nad yw arfer da fel hwnnw yn mynd ar goll, ond yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth wirioneddol â'r rhanddeiliaid allweddol?
Ac yn olaf, yn y digwyddiad ddydd Iau diwethaf, un o'r bobl ar y panel gyda ni oedd rheolwraig polisi ac ymgyrchoedd Age Cymru. Atgoffodd ni fod cylchlythyr Cynghrair Henoed Cymru y gaeaf diwethaf wedi dweud bod cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn teimlo eu bod yn cael eu heithrio ac mai dim ond rhan fach sydd gan y trydydd sector i'w chwarae a dim ond ychydig iawn, os o gwbl, o ymgysylltiad strategol â chynllunio. A dywedodd mai ei blaenoriaeth gyntaf o ran rhoi tanwydd tlodi wrth galon yr agenda yng Nghymru fyddai mynd i'r afael â hynny a sicrhau bod y trydydd sector yn cael bod yn wir effeithiol ac yn cael ymgysylltiad gwirioneddol â'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Unwaith eto, a ydych chi'n cytuno â hi? Ac os felly, sut, ymhen blwyddyn arall, y byddwch chi'n gweithio â chymheiriaid i sicrhau bod hynny'n digwydd?