Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 19 Chwefror 2019.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddweud ar y cychwyn fy mod i, wrth gwrs, yn cydnabod y cyfraniad mae rhaglen Cartrefi Cynnes ac Arbed a Nyth wedi ei wneud wrth geisio taclo tlodi tanwydd? Ond dwi'n mynd i ddweud yr hyn dwi'n ei ddweud bob tro dwi'n cyfeirio at y rhaglenni yma: dyw maint y rhaglenni yma ddim yn cyfateb i faint yr her sydd yn ein hwynebu ni yng Nghymru, wrth gwrs, o safbwynt tlodi tanwydd, heb sôn am newid hinsawdd. Rŷn ni'n gwybod bod bron i 500 o farwolaethau ychwanegol yn y gaeaf yn gysylltiedig â thlodi tanwydd yng Nghymru bob blwyddyn. Rŷn ni'n gwybod hefyd fod tua chwarter o aelwydydd Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae'r ystadegau yma yn grisis ac yn sgandal cenedlaethol. Ar y raddfa bresennol o fynd i'r afael â thaclo tlodi tanwydd, mi fyddai'n cymryd 48 mlynedd i Gymru gael gwared â thlodi tanwydd. Felly, dyna pa mor annigonol, dwi'n ofni, mae'r ymateb wedi bod.
Felly, wrth estyn y rhaglen Cartrefi Cynnes, gaf i ofyn a fyddwch chi'n ehangu'r adnoddau sydd ar gael, a gwneud hynny yn sylweddol? Neu a ydyn ni'n mynd i gael dwy flynedd ychwanegol o'r un peth? Oherwydd dyw'r cynnydd sydd wedi cael ei ddelifro hyd yn hyn, wrth gwrs, ddim yn ddigonol. Nawr, mi fuodd Plaid Cymru yn glir yn ein maniffesto ni yn yr etholiad Cynulliad diwethaf y buasem ni wedi cyflwyno'r rhaglen retroffitio fwyaf a welodd Cymru erioed, gwerth £3 biliwn dros nifer o flynyddoedd, a dyna'r math o ymateb uchelgeisiol a radical sydd ei angen.
Nawr, mae'r Llywodraeth—ac rydych chi'n dweud yn eich datganiad—wedi gwario rhyw £248 miliwn dros, bron, y 10 mlynedd diwethaf, so beth yw hynny—rhyw £25 miliwn y flwyddyn? Ond rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru yn gwario £100 miliwn bob blwyddyn ar drin mynediadau i'r ysbyty yn ymwneud â'r oerfel—cold-related hospital admissions.