Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 19 Chwefror 2019.
Diolch, Mark Isherwood, am y gyfres o gwestiynau. Rydych chi'n holi ynghylch pa bryd y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffigurau newydd. Fy nealltwriaeth i yw y bydd hynny yn y gwanwyn, ac rwy'n gwybod y gall hynny gwmpasu sawl mis yn y flwyddyn, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod i ddweud pa bryd yn union y credaf y byddwn ni'n cyhoeddi'r ffigurau hynny.
Fel y dywedodd Mark Isherwood, roeddwn i'n bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, yr ydych chi'n ei gadeirio, tua diwedd y llynedd, rwy'n credu, ac yn sicr, fe'i cefais yn fuddiol iawn i gael y sgwrs honno gyda chynifer o randdeiliaid brwdfrydig. Ac, yn fy marn i, wrth fynd ymlaen, buom yn sôn am y strategaeth newydd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau gweithio gyda rhanddeiliaid. Credaf fod angen inni ddod o hyd i ffordd o sicrhau y bydd ganddyn nhw ymateb ystyrlon i'r modd y byddwn ni'n datblygu'r strategaeth tlodi tanwydd newydd. Ac yn sicr byddaf yn ystyried a oes angen rhyw fath o drafodaeth bwrdd crwn neu ryw fath o grŵp i'n helpu i gyflwyno'r strategaeth honno. Nid wyf yn credu y dylai fod yn rhy fawr—rwy'n credu ichi restru nifer o wahanol sefydliadau, ac weithiau mae braidd yn anodd cael gormod o amgylch y bwrdd. Ond, yn sicr, bydd angen yr arbenigedd sydd ganddyn nhw, yn fy marn i.
Fel y gwnaethoch chi ei grybwyll, roeddwn i'n sôn yn fy natganiad agoriadol ein bod ni erbyn hyn yn dechrau edrych at ddatblygu strategaeth tlodi tanwydd newydd i'w chyflwyno yn 2020—tua'r adeg hon y flwyddyn nesaf, mae'n debyg. Rwy'n gobeithio ei chyhoeddi yn y gynhadledd. Byddwn yn mynd allan i ymgynghoriad yn yr hydref, felly mae angen braenaru'r tir o'r gwanwyn ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod ni'n barod i gael yr ymgynghoriad cyhoeddus hwnnw yn yr hydref, a fydd wedyn yn datblygu'r cynllun newydd i'w gyhoeddi yn gynnar yn 2020. Soniais ei bod hi'n bwysig iawn fod ein hamcanion yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn ymarferol i'r dyfodol.
O ran y cynllun tywydd oer, yn sicr, pwyswyd arnaf yn drwm iawn, rwy'n credu, yn y grŵp trawsbleidiol, ynghylch y cynllun tywydd oer, a gofynnais i'm swyddogion, fel y dywedais, ddatblygu cynllun tywydd oer yn rhan o'r cynllun newydd i ymdrin â thlodi tanwydd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Rwyf i o'r farn bod angen i'r cynllun ganolbwyntio ar y ffordd orau i warchod pobl agored i niwed sy'n byw mewn cartrefi oer yn ystod misoedd y gaeaf. Fel mesur dros dro ar gyfer y gaeaf hwn, rwy'n derbyn mai gaeaf arbennig o dyner a gafwyd, rwyf wedi gwneud trefniadau i sicrhau y caiff mesurau eu rhoi ar waith i warchod pobl sy'n agored i niwed yn rhan o'n cynllun gwytnwch ar gyfer y gaeaf, a gaiff ei lunio gan fy nghyd-Aelod Julie James. Soniais hefyd fy mod wedi rhoi rhywfaint o arian ychwanegol gerbron i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl na allant dalu'r ffi galw allan, sy'n rhwystr enbyd i rai pobl. A chaiff hynny ei gyflawni gan y gronfa cymorth dewisol, y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn ohoni, a gwn ei bod wedi cael ei defnyddio. Yna, pan fydd yr alwad allan wedi bod a dim modd trwsio'r boeler, gellir darparu gwresogi mewn argyfwng. Ac, unwaith eto, gellir atgyfeirio at Nyth am gymorth ychwanegol.
Gofynnodd yr Aelod am ariannu mewn argyfwng, felly rwyf newydd gyfeirio at y ffi galw allan. Fe allwn i ystyried cronfa argyfwng ond, yn amlwg, byddai'n rhaid i'r arian ddod o rywle arall, a byddai'n rhaid i mi chwilio am ffynhonnell i'r cyllid hwnnw. Ond rwy'n sicr yn credu, wrth inni edrych ar ddatblygiad y strategaeth tlodi tanwydd newydd, y byddai hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei ystyried.
Roedd Mark Isherwood yn sôn am gynllun sir y Fflint, yr wyf i'n ymwybodol ohono, yn amlwg, oherwydd ei fod yn y gogledd. Credaf ei bod yn bwysig nad ydym ni'n colli'r arferion da hynny. Felly, unwaith eto, byddwn yn hapus iawn i glywed am brofiadau eraill ac, eto, efallai wrth inni ddatblygu'r strategaeth y gallen nhw fod â rhan yn hynny.