7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 19 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:22, 19 Chwefror 2019

Diolch yn fawr, a dwi'n symud y gwelliannau hynny. 

Diolch yn fawr am y cyfle i drafod canfyddiadau adroddiad Estyn 2017-18. Mae sefyllfa ein hysgolion uwchradd yn fater o bryder mawr, gyda disgyblion mewn hanner ein hysgolion uwchradd, sef mewn tua 100 o ysgolion, yn cael eu gadael i lawr. Hynny yw, dydy'r plant ddim yn cyrraedd eu llawn botensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol.

Mae hyn yn sobor i bob un person ifanc sy'n cyrraedd y sefyllfa honno, ac mae o hefyd yn sobor o ran ffyniant y genedl yn gyffredinol. Mae Cymru angen cyfundrefn addysg o'r radd flaenaf er lles y genedl a chenedlaethau'r dyfodol. Dim ond 195 ysgol uwchradd sydd yna yng Nghymru. Dydy hyn ddim yn rhif anferth, ac mae'n rhaid felly fod yna rywbeth mawr o'i le nad oes modd sicrhau safonau cyrhaeddiad uwch a chyson ar draws Cymru. Y cwestiwn pwysig ydy: sut mae gwella'r sefyllfa?

Mi nododd prif arolygydd Estyn yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Rhagfyr y llynedd fod angen gwneud tri pheth. Yn gyntaf, mae angen adnabod yr ysgolion yn gynt, hynny yw, yr ysgolion sy'n tanberfformio. Yn ail, mae angen gwneud yn siŵr eu bod nhw yn cael gwell cefnogaeth ac, yn drydydd, mae angen cydgordio'r gefnogaeth maen nhw'n ei chael ar hyn o bryd yn well.

Dwi'n mynd i hoelio sylw ar y trydydd pwynt yma, sydd yn hollbwysig, dwi'n meddwl, ac yn haeddu sylw. Ar hyn o bryd, mae cymaint o haenau yn y system—yr ysgolion eu hunain a'u timau rheoli, y llywodraethwyr, yr awdurdodau lleol, y consortia ac adran addysg Llywodraeth Cymru—pwy sydd yn cymryd y cyfrifoldeb? Ydy o'n gyfrifoldeb i bawb, ac i neb, yn y pen draw? Mae hyn yn bryder. Mae angen gwella atebolrwydd yn y system drwyddi draw a hynny ar frys, ac mae angen adolygu'r trefniadau a'r angen am yr holl haenau er mwyn gwneud cydgordio'r gefnogaeth yn well, sef un o amcanion y prif arolygydd.

Troi at adroddiad Donaldson ar yr arolygiaeth dysgu—prif fyrdwn hwnnw oedd y dylai fod gan Estyn fwy o rôl o ran cefnogi'r broses o wella ysgolion. Hynny yw, y dylai Estyn fod yn fwy gweithredol yn yr ymateb, yn hytrach na dim ond yn y diagnosis. Ac mae yna ddadleuon o blaid ac yn erbyn hynny, a'r bore yma, fe gafwyd datganiad gan y Llywodraeth yn dweud eu bod nhw yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad yna.

Ond un cyhoeddiad heddiw sydd wedi dychryn pawb ydy hwn, sef y bydd yna fwy o arolygiadau, ac Estyn, nid Donaldson, sydd wedi sôn am hyn. Mae o wedi llwyddo i gynddeiriogi bron pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Doedd yna ddim cyfeiriad at hyn yn adroddiad Donaldson, hyd y gwelaf i, ac os rhywbeth, mae'r adroddiad yn rhoi'r argraff mai symud i'r cyfeiriad arall sydd angen, efo'r pwyslais ar ddilysu hunanarfarnu, nid ar fwy o arolygu. Ond mae'r Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion, ac felly, os ydy'r Llywodraeth am weld Estyn yn rhoi mwy o gefnogaeth i'n hysgolion ni, yna mae'n rhaid gofyn y cwestiwn: beth ydy pwrpas y consortia? Mae'n rhaid edrych o ddifri ar eu rôl nhw os ydy Estyn yn mynd i fod yn cymryd rhai o'r cyfrifoldebau drosodd.

Un arall o ganfyddiadau Estyn oedd hyn: mae arweinyddiaeth yn ddigonol ac angen gwelliant mewn pedair o bob 10 ysgol, ac yn anfoddhaol mewn rhyw un o bob 10 ysgol. Mae'r ymyrraeth sy'n dod o wahanol gyfeiriadau yn gwneud swydd pennaeth yn un anodd iawn. Dyma reswm arall dros greu llai o haenau yn y system, a chreu llinellau atebolrwydd cadarn drwyddi draw. A dwi ddim yn credu y gellir edrych ar y problemau sy'n cael eu hamlygu gan adroddiad Estyn heb edrych ar y cyd-destun ehangach sy'n wynebu ein hysgolion a'n hathrawon. Does yna ddim dwywaith fod y proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, a fedrwn ni ddim sôn am godi safonau heb sôn am gyllid ac adnoddau. Yn ôl y Llywodraeth ei hun, mae diffyg yng nghyllideb dwy o bob pum ysgol a arolygwyd. Mae'n rhaid inni unioni'r sefyllfa yma, ac mae angen i'r Llywodraeth gynnal adolygiad brys o gyllido ysgolion. Ydy'r lefel cyllido yn ddigonol? A beth am y sleisen o'r gacen sy'n mynd at addysg? Oes digon ohono yn mynd at ein hysgolion? Gobeithio y bydd y drafodaeth prynhawn yfory yn amlygu rhai o'r problemau yma a bod gwaith y pwyllgor plant a phobl ifanc hefyd yn bwydo i'r drafodaeth honno.

Dwi'n gorffen ar hyn: gwaith y Llywodraeth yma ydy edrych yn hir ac yn galed ar y dystiolaeth a dod i gasgliadau a gweithredu yn ôl y dystiolaeth.