Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch. Yn sicr, mae’n fenter ddiddorol iawn. Cawsom sgwrs fywiog gyda swyddogion y bore yma yn ystod y cwestiynau llafar, a byddaf yn sicr yn trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Ken Skates. Credaf ei bod hefyd yn bwysig trafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, sy'n amlwg yn arwain ar y rhan honno o'r portffolio, ond hefyd, gydag arweinwyr llywodraeth leol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Hannah Blythyn hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar rinweddau cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diod yn gynharach yr wythnos hon, ac mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar yr un pryd, ond yn amlwg, mae plastig yn faes lle rydym wedi gwneud yn dda o ran ein hailgylchu. Mae gennym gyfraddau uchel iawn o ailgylchu plastig, felly rydym am osgoi canlyniadau anfwriadol.