Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 20 Chwefror 2019.
Fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar drafnidiaeth, o dan gadeiryddiaeth Russell George, bysiau a cherbydau nwyddau trwm sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd diesel. Ac er bod lorïau'n cael eu newid am rai newydd yn weddol aml, nid yw’r un peth yn wir am fysiau. Yn y gorffennol, rhoddodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o arian i Gyngor Abertawe tuag at system Nowcaster—nid wyf wedi sôn amdani ers tro, felly roeddwn yn meddwl y dylid ei chrybwyll—a hyd y gallwn ddweud—efallai y bydd rhywun yn fy nghywiro yma—nid yw wedi cael ei defnyddio i ailgyfeirio traffig ar unrhyw adeg. Felly, yn fy marn i, mae’n system sydd wedi methu. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi arian i helpu cynghorau i uwchraddio eu trafnidiaeth gyhoeddus, os mynnwch, a sicrhau ei bod yn fwy gwrth-lygredd, yn hytrach na buddsoddi yn y systemau monitro hyn nad yw'n ymddangos eu bod wedi gwneud unrhyw wahaniaeth?