Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 20 Chwefror 2019.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Canfu arolwg defnyddwyr YouGov a gynhaliwyd ar ran NFU Cymru y gallai Brexit helpu i ysgogi gwerthiant cynnyrch Cymru pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedodd chwarter yr ymatebwyr y bydd prynu cynnyrch o Gymru yn bwysicach iddynt ar ôl Brexit, a dywedodd 31 y cant yn ychwanegol fod prynu cynnyrch o Gymru yn bwysig iddynt yn barod ac y bydd yn parhau i fod yn bwysig iddynt. Weinidog, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â labelu bwyd er mwyn sicrhau y gall ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru fanteisio'n llawn ar y budd posibl a nodwyd yn yr arolwg defnyddwyr?