Hyrwyddo Cynnyrch Bwyd a Diod o Gymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 20 Chwefror 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:58, 20 Chwefror 2019

(Cyfieithwyd)

Credaf fod labelu bwyd yn hynod o bwysig, ac mae'n rhan o drafodaethau parhaus, yn enwedig ar ôl Brexit. Credaf fod gan bobl lawer mwy o ddiddordeb yn nharddiad eu bwyd a'u diod nag a oedd ganddynt ychydig ddegawdau yn ôl yn unig, mae'n debyg. Credaf fod sicrhau bod y ddraig ar ein bwyd, i ddangos ei fod wedi'i wneud yng Nghymru, yn bwysig iawn, ac mae pobl yn cydnabod hynny o ddifrif. Os caf ddweud: ddoe ddiwethaf, rhoddwyd statws enw bwyd gwarchodedig gan Ewrop i fwyd arall—y ffrwyth cyntaf, mewn gwirionedd—sef eirin Dinbych Dyffryn Clwyd. Roedd yn wych eu croesawu i deulu sy'n tyfu. Credaf fod gennym 16 o gynhyrchion bwyd a diod bellach, ac fel rwy'n dweud, dyma'r ffrwyth cyntaf.