Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 20 Chwefror 2019.
Nawr, mae cynyddu'r defnydd o gerbydau trydan, yn breifat ac yn gyhoeddus, yn ffordd amlwg o leihau lefelau llygredd aer mewn ardaloedd fel Port Talbot, ond mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn feirniadol o'r cynnydd, neu'r diffyg cynnydd, yn hytrach, ar yr agenda hon, gan ddweud bod diffyg cyfeiriad cenedlaethol ac na chafwyd ymdrech gydunol gan Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol ar yr agenda hon. A ydych yn derbyn bod diffyg cynnydd wedi bod ar hyn, a hyd nes eich bod yn darparu'r cyfarwyddyd cenedlaethol hwnnw, bydd Port Talbot ac ardaloedd eraill yng Nghymru yn parhau i ddioddef yn sgil problemau ansawdd aer?